Y plac i gofio 60 mlynedd ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd
|
Cafodd plac ei ddadorchuddio i nodi 60 mlynedd ers i'r Gwasanaeth Iechyd gael ei sefydlu a hynny ym man geni'r sefydlydd, Aneurin Bevan.
Mae'r plac wedi cael ei osod ar garreg goffa newydd yn Nhredegar lle'r oedd Bevan yn cynnal cyfarfodydd ac yn siarad gyda'i etholwyr.
Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, wnaeth ddadorchuddio'r plac.
Dywedodd bod hyn yn "gofiant teilwng" i gyn-Aelod Seneddol yr ardal.
Mae 'na sawl carreg yn rhan o Gerrig Coffa Aneurin Bevan.
Mae'r garreg newydd tua 40 llath (37 medr) oddi wrth y cerrig eraill ar Fryn Sirhywi.
Cafodd y pedair carreg wreiddiol eu gosod yno yn y 1970au i gynrychioli'r AS a'r tair prif dref yn yr etholaeth, Glyn Ebwy, Tredegar a Rhymni.
Daw'r garreg newydd, fel y lleill, o chwarel Trefil, ond mae hi'n garreg lai.
'Teilwng'
"Rwy'n falch o gael dadorchuddio'r plac ar y garreg newydd i goffau 60 mlynedd ers i Nye Bevan greu'r Gwasanaeth Iechyd," meddai Ms Hart.
"Mae'n deyrnged deilwng i'r dyn ac i Dredegar, tref sydd yn aml yn cael ei disgrifio fel ysbrydoliaeth i'r gwasanaeth.
"Rydym yn clywed beirniadaeth o'r gwasanaeth yn rhy aml, ond mae'n helpu ac yn gofalu am filiynau o bobl ar draws y DU bob dydd.
"Diolch i'r cynnydd mewn gofal meddygol a dechrau'r gwasanaeth, mae pobl bellach yn byw yn fwy iach ac am fwy o amser."
Dywedodd bod y gwasanaeth wedi newid dros y 60 mlynedd diwethaf ac y bydd yn parhau i newid wrth iddo wynebu'r her yn y dyfodol.
"Fodd bynnag, rhaid iddo ddilyn ei egwyddorion gwreiddiol bob tro, sef bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim pan gaiff ei dderbyn," ychwanegodd.
Gweledigaeth
Cyngor Tref Tredegar ac Unsain sydd wedi trefnu'r digwyddiad.
Dywedodd Dr John Evans, clerc tref Tredegar, eu bod yn falch iawn.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn destun eiddigedd drwy'r byd," meddai.
Aneurin Bevans oedd yr AS lleol a 'thad' y gwasanaeth iechyd
|
"Llwyddodd gweledigaeth Nye i roi gofal iechyd o fewn cyrraedd y tlotaf o fewn cymdeithas.
"Nid rhywbeth i bobl gyfoethog yn unig oedd iechyd bellach."
Yn ôl Dave Galligan, pennaeth iechyd Unsain: "Un deyrnged rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ei chofio o'r dathliadau...er gwaethaf y cwyno dros y blynyddoedd... ydi bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn sefydliad o'r safon uchaf bosibl.
"Mae'n parhau i ddilyn yr egwyddorion gwreiddiol ac mae'r gwasanaeth yn llwyddiant ac yn sefydliad arbennig."
Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, oedd yn darparu gofal iechyd i'r glowyr a'r gweithwyr haearn lleol am ffi wythnosol fach, oedd yr ysbrydoliaeth i syniad Bevan i greu'r gwasanaeth.
Dydd Sadwrn hefyd bydd Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru yn dathlu penblwydd y gwasanaeth gyda phob baban sy'n cael ei eni yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn cael tedi.
Bydd cacennau dathlu penblwydd yn cael eu gweini yn Ysbyty Glan Clwyd, y wardiau yn holl ysbytai'r ymddiriedolaeth yn Wrecsam, Sir y Fflint a Phowys.