Y garreg goffa o flaen Tyddyn Melys
|
Cafodd brodyr enwocaf Môn eu hanrhydeddu yn ystod seremoni ddydd Gwener.
Roedd Morrisiaid Môn yn adnabyddus fel ysgolheigion a llenorion yn ystod y 18fed ganrif.
Mae hanes y brodyr - Lewis (1700/01-65), Richard (1703-79), William (1705-63) a Siôn (1713-40) - yn cael ei olrhain hyd heddiw gan Gymdeithas Morrisiaid Môn.
Fe'u magwyd ym Mhentre-eirianell, Penrhosllugwy, ger pentref Moelfre ac aeth Lewis, y brawd hynaf, ymlaen i ragori fel prydydd, ysgrifennwr rhyddiaith, ysgolhaig a hynafiaethydd.
Daeth hefyd yn un o brif hyrwyddwr yr adfywiad clasurol mewn dysg a llên yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif.
Rhagorodd Richard hefyd fel prif golofn Cymdeithas y Cymrodorion (a sefydlwyd yn Llundain yn 1751); William fel naturiaethwr; a Siôn fel llongwr.
'Cyfraniad enfawr'
Cafodd cofeb yn cael ei dadorchuddio yn Nyddyn Melys, Capel Coch, gan Gadeirydd y Cyngor Sir, Aled Morris Jones, ddydd Gwener - Tyddyn Melys oedd man geni Lewis Morris.
Y Parchedig Ddoethor Dafydd Wyn Wiliam, un o gonglfeini Cymdeithas Morrisiaid Môn wnaeth areithio, ac roedd disgyblion Ysgol Tŷ Mawr, Capel Coch, hefyd yn cymryd rhan yn y seremoni.
Panel Placiau Coffa Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn gyfrifol am osod y plac
|
Dywedodd Dr Wiliam: "Roedd 'na bump o blant i gyd, y pedwar brawd a chwaer.
"Cafodd Siôn ac Elin eu geni yn y plwy nesaf ac felly cofio'r tri a anwyd yn y plwy hwn mae'r gofeb."
Panel Placiau Coffa Cyngor Sir Ynys Môn - corff ag arbenigwyr allanol a chynrychiolaeth o'r Awdurdod - sydd yn gyfrifol am osod y placiau fel teyrnged i frodorion yr ynys sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd Môn a Chymru.
Pwysleisiodd y deilydd portffolio Addysg a Hamdden y Cyngor Sir, y Cynghorydd Eurfryn Davies: "Mae gan y panel yma rôl arbennig iawn i'w chwarae yn ein cymdeithas heddiw, wrth iddo anrhydeddu rhai, fel yr enwog Morrisiaid Môn, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i dreftadaeth, diwylliant a bywyd Cymreig."