BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2008, 07:46 GMT 08:46 UK
Llyfr y Flwyddyn: Gwobr i Gareth

Gareth Miles
Gareth Miles ydi awdur Llyfr Cymraeg Y Flwyddyn eleni

Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel gan Gareth Miles sydd wedi ennill adran Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Cyhoeddwyd enwau'r llyfrau buddugol mewn seremoni yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, nos Fawrth.

Y llyfrau Cymraeg eraill oedd yn cystadlu am y wobr gyntaf o £10,000 oedd Pryfeta gan Tony Bianchi, cyfrol enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007, a Dauwynebog, cyfrol barddoniaeth gyntaf Ceri Wyn Jones.

Y beirniaid oedd Huw Meirion Edwards, Siân Thomas ac Aled Islwyn.

Nofel am fwrlwm y diwygiad yw un Gareth. "Dwi wedi darllen y rhan fwya o'r llyfrau oedd ar y rhestr hir a darllen y rhai ar y rhestr fer," meddai ar ôl ennill.

Diddordeb

"Roeddwn i'n gwrthod gadael fy hun i feddwl y gallwn i ennill ... meddwl bod 'na awduron mor dalentog.

"Yr ysgogiad cynta oedd cael cais i sgwennu sgript ffilm a dwi'n credu mewn ailgylchu a dwi'n meddwl 'mod i'n well nofelydd na sgriptiwr.

"Mae'r pwnc a'r cyfnod yn ddiddordeb mawr iawn i mi.

"Anghydffurfiaeth oedd un o'r mudiadau ffurfiodd y genedl Gymreig a dwi'n meddwl mai'r Diwygiad oedd dechrau'r diwedd."

Dywedodd yr awdur ei fod yn gobeithio teithio i America Ladin oherwydd y wobr.

Yn ôl y beirniaid, doedd y broses o ddewis a dethol ddim yn hawdd.

"Fe gawson ni tua 60 o lyfrau Cymraeg i'w darllen a'u tafoli eleni, oedd yn dipyn o gamp ...," meddai Mr Edwards.

Amrywiaeth

"Roedd yr amrywiaeth yn rhyfeddol, a dweud y gwir.

"Roedd hi'n flwyddyn gre iawn o ran nofelau ac roedd cyfrolau barddoniaeth, astudiaethau academaidd, cofiannau a llyfrau ffeithiol.

"Anodd iawn iawn oedd torri nhw lawr i 10 heb sôn am dri.

Dannie Abse
Dannie Abse enillodd y wobr am y Llyfr Saesneg gorau

"Mae'r gystadleuaeth yn fodd i gydnabod yr amrywiaeth a'r ddawn o sgwennu sydd yna yn Gymraeg.

"Tipyn o gamp i'w torri nhw lawr ac yn dipyn o gamp heno i ddod o hyd i'r enillydd o blith y tri llyfr."

Dywedodd Ms Thomas ei bod hi'n anodd cymharu llyfrau oedd mor wahanol i'w gilydd.

"Ond ar ddiwedd y dydd, anrhydeddu a beirniadu crefft yr ydyn ni a'r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu'n dda sy'n bwysig.

"Mae wedi bod yn dasg hynod o anodd gyda chyfrolau mor wahanol ... tasg bleserus ond un anodd iawn."

Dryswch

Roedd 'na ddryswch am bwy oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg.

Tom Bullough gafodd ei alw i'r llwyfan gan Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Diwylliant Cymru, ond, mewn gwirionedd, Dannie Abse a The Presence, llyfr am golli ei wraig, enillodd y tlws.

Y ddau arall ar y rhestr fer oedd The Claude Glass gan Tom Bullough a Blue Sky July gan Nia Wyn.

Mae'r pedwar awdur arall ar y rhestr fer Saesneg yn derbyn £1,000 yr un.

Y tri beirniad Saesneg oedd Damian Walford Davies, Trevor Fishlock a Mavis Nicholson.

Dywedodd Peter Finch, prif weithredwr yr Academi, y corff sy'n gyfrifol am y gystadleuaeth, fod y safon eleni yn "uchel iawn".

Mwy am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Cliciwch yma.



HEFYD
Llyfr y flwyddyn: Rhestr fer
27 Mai 08 |  Newyddion
Rhestr hir Llyfr y Flwyddyn
12 Maw 08 |  Newyddion
Cofiant Gwynfor yn cipio £10,000
11 Gorff 06 |  Newyddion
£10,000 yr un i Caryl ac Owen
22 Meh 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^