Roedd Aneurin Bevans yn AS dros Lyn Ebwy rhwng 1929 a 1960
|
Mae cynllun i newid enw ymddiriedolaeth iechyd yn y de ar ôl sefydlydd y Gwasanaeth Iechyd, Aneurin Bevan, wedi cael ei feirniadu a'i ddisgrifio fel "gwastraff arian".
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymgynghori ar gynlluniau i newid enw Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent wrth i'r gwasanaeth iechyd ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Dywed y cyngor iechyd lleol y byddai newid yr enw yn golygu cost o £200,000 - rhywbeth nad oedden nhw yn fodlon i'w gefnogi.
Mae'r syniad wedi cael ei feirniadu gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd Aneurin Bevan yn dod o Dredegar ac yn Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy.
Mae'r ddau le o fewn ffiniau Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Iechyd Cymuned Gwent fod y cyngor wedi pleidleisio o fwyafrif mawr yn erbyn y syniad.
"De ni heb gefnogi'r syniad," meddai Catherine O'Sullivan, prif swyddog y cyngor iechyd.
Roedd yr aelodau o'r farn y byddai'n costio hyd at £200,000 i newid logos ac yn y blaen.
"O bosib, wrth ystyried yr holl wariant dio ddim yn swm mawr ond gan fod arian yn dynn.
"Fe fyddai'n well pe bai'r arian yn cael ei wario ar rywbeth y byddai Aneurin Bevan wedi ei werthfawrogi.
"Rhywbeth fel cefnogi gwasanaethau yn hytrach na newid enw."
'£150,000'
Dywedodd fod aelodau'r cyngor hefyd o'r farn y dylai enw'r ymddiriedolaeth ddisgrifio'r ardal ddaearyddol mae'n ei gynrychioli.
Yn ôl William Graham, AC Ceidwadol Dwyrain De Cymru, dylai'r arian gael ei wario ar ofal cleifion.
"Mae awgrymu newid enw tra bod y Gwasanaeth Iechyd yn lleol yn ei chael hi'n anodd i ymdopi yn rhywbeth gwbl hurt," meddai.
Yn ôl Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a AC Dwyrain De Cymru, byddai'n well gwario'r arian ar staff.
"Pan wnaethom ni newid logo Cyngor Caerdydd yn yr 1980au fe gostiodd hynny £150,000.
"Mae yna ffyrdd gwell o wario'r arian."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Fe fydd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart yn ystyried yr ymateb yn ofalus cyn gwneud penderfyniad. "