BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mehefin 2008, 11:14 GMT 12:14 UK
Esgob Bangor wedi marw

Y gwir barchedig Anthony Crockett
Y Gwir Barchedig Anthony Crockett

Bu farw Esgob Bangor, y gwir barchedig Anthony Crockett yn 62 oed.

Roedd wedi bod yn diodde o ganser ers 18 mis.

Fe gafodd ei ethol yn esgob yn 2004.

Cyn hynny fo oedd Archddiacon Caerfyrddin.

Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, ei fod wedi gadael ei farc ar yr esgobaeth mewn cyfnod byr, gan ei fod yn ddyn oedd o hyd yn barod i fynegi ei farn, ond hefyd yn barod i helpu.

Yn Gymro Cymraeg, fe'i ganwyd ym Mhontypridd.

Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn pererindod ac fe gerddodd 1,000 o filltiroedd o Le Puy i Santiago de Compostela yn 1995.

Yn ddiweddar fe drefnodd y drydedd bererindod i Ynys Enlli.

Ond oherwydd ei salwch mi fethodd a bod yn bresennol.

'Dewrder'

Mewn datganiad ar y cyd gan arweinwyr crefyddol Esgobaeth Bangor mae son am "ddewrder" yr Esgob a'r "argraff" a wnaeth.

"Er fod yr amser a fu yn ein plith yn ymddangos yn greulon o fyr, mae ei weinidogaeth fel ein Hesgob wedi bod yn ddifesur o ffrwythlon a chreodd argraff ddofn a fydd yn ein cynnal ymhell i'r dyfodol," meddai'r datganiad gan Y Tra Pharchedig Alun Hawkins, Deon Bangor, Yr Hybarch Meurig Llwyd Williams, Archddiacon Bangor, Yr Hybarch Emyr Wyn Rowlands, Archddiacon Meirionnydd a Ms Stella Schultz, Ysgrifennydd yr Esgobaeth.

"Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio wynebodd ei salwch gyda dewrder a phenderfyniad, gyda ffydd ac ymddiriedaeth diwyro yn Nuw a chonsyrn diarbed am offeiriaid a phobl yr Esgobaeth," meddai'r datganiad

"Yn ein Hesgob cawsom rodd unigryw gan Dduw: gwr â gweledigaeth, ynni a doethineb.

"Dim ond testun diolch sydd yn ein calonnau am y cyfan a roddodd i ni."

Yn 80fed Esgob Bangor, fo oedd y cyntaf oedd wedi ysgaru ac ail-briodi i'w benodi yn Esgob.

Mi ail-briododd ym 1999 ac mae'n gadael tri o blant.



HEFYD
Trefnydd ddim ar ran ola'r daith
21 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^