BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2008, 06:11 GMT 07:11 UK
Iechyd: 'Pêl-droed wleidyddol'

Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Protest ym Mlaenau Ffestiniog
Cafodd sawl protest eu cynnal yn erbyn cau ysbytai lleol

60 mlynedd ers iddo gael ei greu a ydy'r gwasanaeth iechyd wedi troi'n bêl-droed wleidyddol?

Anaml y mae gwleidyddion o bob plaid yn barod i gytuno ar osodiad gwleidyddol syml.

Ond mae ymateb cynrychiolwyr pob un o'r prif bleidiau Cymreig i'r gosodiad bod y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn bêl-droed wleidyddol ar hyd y blynyddoedd yn unfrydol.

Mae'r rheswm eu bod yn cytuno yn eithriadol o syml - cread o symbolaeth ac ideoleg gwleidyddol oedd y Gwasanaeth Iechyd yn y lle cynta, rhywbeth sydd bellach yn rhan o wead seicolegol y gymdeithas gyfoes.

Ond mae 'na reswm mwy syml na hynny, sef bod safon a lleoliad gwasanaethau iechyd yn bwysicach i bobl o fewn eu cymunedau na bron i unrhyw bwnc arall.

Ail-strwythuro

Roedd hyn yn glir mewn sawl rhan o Gymru yn ystod Etholiadau'r Cynulliad yn 2007 a'r brotest yn erbyn ail-strwythuro a chau gwasanaethau yn Ysbyty Llandudno, er enghraifft, yn ganolog i'r ymgyrch leol.

Er i Gareth Jones o Blaid Cymru elwa, gan ennill y sedd oddi wrth y Blaid Lafur, mae'n mynnu bod y ffactor yn llawer pwysicach i bobl gyffredin nag oedd unrhyw ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Mae angen targedau sy'n canolbwyntio ar brofiadau'r claf yn hytrach nag ymateb i ofynion gwleidyddol
Jenny Randerson AC, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol

"Mi dderbyniais i lythyrau - dwi'n sôn am gannoedd a miloedd rwan - nid gwleidyddiaeth oedd hwnna ond llais pobl," meddai.

"Mae'n anodd wedyn i mi ddweud nad oedd y peth yn wleidyddol - mi oedd erbyn y diwedd ... ond yn ei hanfod, yr hyn ysgogodd yr holl beth oedd teimladau cryfion y cyhoedd."

Adnoddau

I raddau, mae'n bosib bod ail-strwythuro yn anochel, wrth i'r gofynion ar y gwasanaeth iechyd newid o un flwyddyn i'r llall.

Ond mae gofal am ddim i bawb yn eithriadol o ddrud ac wedi arwain at ddadleuon gwleidyddol sylfaenol ynglŷn â sut i dalu am y cyfan.

Tra bod llywodraeth glymblaid yn dueddol o fod yn erbyn dylanwad y sector preifat, mae'r Ceidwadwyr, yn ôl eu llefarydd iechyd Jonathan Morgan, yn dadlau nad yw arian cyhoeddus yn ddigon.

"Ni'n bragmataidd ynglŷn â defnyddio'r sector preifat pan fod angen, er mwyn cynyddu gallu'r gwasanaeth iechyd i gynnig gofal arbenigol i gleifion," meddai.

Aneurin Bevan
Aneurin Bevan wnaeth sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd

"Mae gwrthwynebiad ideolegol gan y llywodraeth glymblaid yn erbyn y sector preifat, a'r canlyniad yw bod cleifion yn diodde, achos dyw'r gallu ddim yn bodoli i gynnig gwasanaethau digonol."

Pwnc arall sydd wedi bod yn corddi'r dyfroedd gwleidyddol yw'r gwahanol dargedau ar wahanol adegau o fewn y gwasanaeth iechyd.

Tra bod rhai'n dadlau eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwella safonau a lleihau rhestrau aros, mae eraill yn mynnu eu bod yn mesur y pethau anghywir, ac yn gallu cuddio problemau mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth.

Yn ôl llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol Jenny Randerson: "Rhaid i ni ail-ystyried hyn yn llwyr a datblygu targedau llawer mwy synhwyrol.

"Y broblem yw pan yw targed yn cael ei osod ar gyfer un rhan o'r gwasanaeth, mae hyn yn tynnu sylw ac adnoddau oddi wrth rannau eraill.

"Felly beth sydd ei angen yw targedau sy'n canolbwyntio ar brofiadau'r claf yn lle ymateb i ofynion gwleidyddol."

Datganoli

Ers dechrau datganoli, mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi symud i sawl cyfeiriad gwahanol i'r hyn a geir yn Lloegr.

Weithiau mae hyn wedi creu rhywfaint o densiwn - gan ysgogi un Gweinidog Iechyd yn San Steffan yn ddiweddar i feirniadu polisïau fel parcio a phresgripsiwn am ddim.

Ond yn ôl Alun Davies o'r Blaid Lafur, dyw hyn ddim yn arwydd o hollt rhwng y llywodraeth yng Nghymru a San Steffan.

"Ry'n ni wastad wedi gweld gwahaniaethau yn y ffordd mae iechyd yn cael ei ddosbarthu ar draws Cymru ac ar draws Prydain," meddai.

"Ac ry'n ni'n gweld nawr ar ôl datganoli bod gyda ni weinidog fan hyn a gweinidog fan draw sy'n dweud pethau sydd ambell waith yn wahanol.

"Ond y rhan fwya'r amser maen nhw'n cytuno achos iechyd i bobl yw'r peth pwysig ar ddiwedd y dydd."

Beth bynnag yw dyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a beth bynnag yw bwriad gwleidyddion i geisio gwneud y peth gorau bob tro, mae'n ymddangos yn annhebygol bod modd dianc rhag natur wleidyddol y Gwasanaeth Iechyd.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^