BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mehefin 2008, 10:54 GMT 11:54 UK
Pryderon am brinder meddygon
Stethoscop
Mae prinder meddygon yn y Cymoedd wedi bod yn broblem ers blynyddoedd

Wrth i'r Gwasanaeth Iechyd baratoi i ddathlu pen-blwydd yn 60 oed, mae pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â dyfodol gwasanaethau yn ardal enedigol ei bensaer, Aneurin Bevan.

Mae pryderon wedi cael eu codi yng nghymoedd y de wrth i nifer o feddygon teulu gyrraedd oedran ymddeol.

Ym Mlaenau Gwent yn unig, mae disgwyl i hanner y 34 o feddygon teulu yn yr ardal ymddeol yn y dyfodol agos ac mae yna bryder cynyddol y bydd cymunedau yn dioddef os nad oes mwy yn cael ei wneud i ddenu meddygon newydd.

Yn ôl Dr David Grant o Gymdeithas Feddygol y BMA mae'r sefyllfa yn un argyfyngus ond dywed Llywodraeth y Cynulliad bod y broblem yn gwella.

Yn ystod y 1960au a'r 70au cafodd nifer o feddygon eu recriwtio o dramor i weithio ym Mhrydain.

Ond mae llawer o'r meddygon hyn nawr yn cyrraedd oedran ymddeol ac mae yna ofnau y bydd meddygfeydd yn gorfod cau os na fydd digon o feddygon i gymryd eu lle.

Meddygfeydd mewn perygl

Meddai un meddyg teulu sy'n gweithio ym Meddygfa Glan Yr Afon yn Nhredegar wrth BBC Cymru: "Pan ddaethom ni yma gyntaf doedd dim llawer o wybodaeth ynglŷn â'r swyddi oedd ar gael dros y wlad.

"Y dyddiau hyn mae gan bobl sy'n dod yma o rannau arall o'r byd lawer mwy o wybodaeth ac felly mae pobl lawer yn fwy parod i ddewis a dethol y swyddi sy ar gael."

Dywedodd Dr David Grant o'r Gymdeithas Feddygol bod nifer o'r meddygon eisoes wedi parhau i weithio'n hirach nag yr oedden nhw wedi bwriadu.

"Ond maen nhw'n mynd i ymddeol yn y pen draw ac oni bai ein bod ni'n llwyddo denu meddygon iau a brwdfrydig i Gymoedd y De maen yna berygl y bydd meddygfeydd yn cau," ychwanegodd.

Mae prinder meddygon teulu yn ardal cymoedd y De wedi bod yn broblem ers blynyddoedd ond yn ôl Llywodraeth y Cynulliad mae'r sefyllfa'n gwella.

Dywedodd llefarydd bod mwy o bobl bellach yn hyfforddi i fod yn feddygon teulu ac yn ceisio am swyddi yng Nghymru.

Ychwanegodd bod y prif swyddog meddygol wedi argymell y dylai fod gan y byrddau iechyd lleol gynlluniau pendant i ddelio gyda'r broblem benodol hon a bod yna dystiolaeth bod yr argymhellion hyn yn cael eu dilyn.



HEFYD
Rhybudd: 'Meddygon teulu'n brin'
08 Rhag 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^