Aneurin Bevan oedd 'Tad' y gwasanaeth iechyd
|
Ar drothwy penblwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 60 oed, faint sydd gennym ni yng Nghymru i'w ddathlu?
Un ateb yw mai Cymro oedd yn gyfrifol am greu'r gwasanaeth - un oedd wedi rhoi ei yrfa at yr achos o sicrhau triniaeth feddygol i bawb am ddim.
Er bod y gyfundrefn greodd Aneurin Bevan wedi newid cryn dipyn dros y degawdau, mae'r sylfaen hwnnw'n dal i fodoli.
Ond, wrth edrych i'r dyfodol, mae'n debyg bod yr her o gadw at syniadaeth Bevan yn un parhaol.
Cyn creu'r Gwasanaeth Iechyd ar y 5ed o Orffennaf, 1948, roedd rhaid un ai talu am ofal meddygol, neu yn achos pobl dlota'r gymdeithas, ddibynnu ar garedigrwydd y meddyg.
Tra bod gweithwyr ar incwm isel wedi medru hawlio triniaeth elfennol, doedd hynny ddim yn ymestyn i'w teuluoedd - ac roedd miloedd yn marw o afiechydon fel niwmonia a'r diciâu.
Yn ôl un o ddisgynyddion Bevan, roedd gweld tynged druenus rhai o gymunedau ardal Blaenau Gwent wedi ysgogi'r Aelod Seneddol lleol i ymgyrchu dros newid.
"Dwi wedi clywed straeon am lowyr oedd wedi cael damweiniau difrifol a gorfod mynd i'r ysbyty," meddai Howard Bevan, sy'n byw yn ardal Tredegar.
"O ganlyniad byddai eu gwragedd a phlant yn colli eu cartref, gan taw'r pwll glo oedd yn berchen ar y tai hefyd.
"Dwi'n credu taw dyna beth oedd wedi ysbrydoli fy hen Wncwl Nye."
Triniaeth am ddim
O Dredegar y daeth syniad Bevan am wasanaeth oedd yn cynnig gofal i bawb.
Yn y dref honno ym 1890, fe sefydlodd y gweithwyr dur a glo'r Gymdeithas Cymorth Meddygol.
Aneurin Bevan ar ymweliad ag ysbyty ar ddiwrnod cynta'r gwasanaeth
|
Trwy gyfraniadau bychain o'u tâl bob wythnos, byddai gweithwyr a'u teuluoedd yn medru hawlio pob math o driniaeth am ddim, gan gynnwys gofal deintyddol a hyd yn oed gwasanaeth llawfeddyg.
Er bod cymdeithasau tebyg wedi sefydlu ym Mhrydain, yr hyn oedd yn denu Aneurin Bevan at y gyfundrefn yn Nhredegar oedd bod mwyafrif helaeth pobl y gymdeithas leol yn elwa.
Dyma oedd sylfaen y Gwasanaeth Iechyd a grëwyd 60 o flynyddoedd yn ôl.
Yng ngeiriau Bevan, roedd angen "ymestyn y manteision oedd gennym ni yn Nhredegar at weddill bobl Prydain".
Nid bod y broses hynny wedi bod yn un hawdd.
Roedd sefydlu gwasanaeth cenedlaethol yn fwy costus nag oedd Bevan a'r Blaid Lafur wedi rhagweld.
Dros y degawdau, yr un drafferth sy'n wynebu gwleidyddion a rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd, penderfynu ar sut i gynnal gwasanaeth sy'n gallu cynnig y gofal gorau bosib i'r nifer mwya o bobl.
Wrth baratoi i ddathlu 60 mlynedd ers creadigaeth Aneurin Bevan, mae'n debyg bydd y ddadl honno'n parhau am flynyddoedd i ddod.