BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 28 Mehefin 2008, 11:03 GMT 12:03 UK
Dot Cym 'gam yn nes'
Logo ymgyrch dot.cym
Mae'n bosib y bydd parth .cym ar gael yn fuan

Mae ymgyrch i gael yr hawl i ddefnyddio'r llythrennau .cym ar wefannau wedi cael hwb mewn cynhadledd ym Mharis.

Roedd 2,000 yng nghynhadledd Icann, y corff sy'n rheoli'r we.

Roedd 'na bleidlais unfrydol o blaid creu mwy o barthau fel .com a .co.uk.

Gallai parthau mwy penodol fel .dr .sport neu .shop gael eu creu yn y dyfodol.

Mae hyn yn newyddion da i ymgyrchwyr o blaid parth penodol i Gymru.

Ond roedd angen mwy o amser i ystyried oblygiadau gan fod 'na alwad am ddefnyddio "symbolau" Chinieg, Arabeg ac ati mewn cyfeiriadau.

Agor y drws

Fe fydd ymgyrchwyr dotCYM yn paratoi cais ar ran Llywodraeth y Cynulliad fydd yn cael ei ystyried gan Icann.

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Sin Jobbins, fod yr hyn ddigwyddodd ym Mharis yn galonogol.

"Dy'n ni ddim am gael ein gadael ar l," meddai.

"Fe fydd Gwlad y Basg, Llydaw a Galicia ac o bosib Yr Alban yn gwneud cais ... felly mae'n bwysig ein bod ninnau yn gwneud hefyd.

"Mae'n bosib y bydd y drws yn agor mewn rhyw dri neu chwe mis.

"Mae 'na lawer o waith i'w wneud i baratoi'r cais, gan gynnwys trafodaethau chwmnau fydd yn gofalu am y dechnoleg."

Dywedodd fod Unesco, un o fudiadau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ymdrin diwylliant, wedi dweud bod angen datblygu ieithoedd lleiafrifol ar y we.



HEFYD
Statws ar y we: 'Cam ymlaen'
05 Meh 08 |  Newyddion
Bwrdd Iaith yn cefnogi dotCYM
03 Rhag 06 |  Newyddion
Statws ar y we: 'Gobeithiol'
27 Medi 06 |  Newyddion
Ymgyrch: Statws i Gymru ar y we
25 Medi 06 |  Newyddion
Catalonia: Hawl i arfer enw gwefan
24 Ion 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^