Aneira: 'Pobol ifanc ddim yn gwybod pa mor lwcus y'n nhw'
|
Mae Cymraes, babi cynta'r Gwasanaeth Iechyd 60 mlynedd yn ôl, yn cwrdd â'r Prif Weinidog Rhodri Morgan ddydd Gwener.
Cafodd Aneira Thomas, sy'n byw yng Nghasllwchwr, ei geni am 12.01am ar Orffennaf 5, 1948.
Roedd ei mam wedi bod mewn poen am 18 awr, meddai, a'r nyrsys wedi dweud: "Dal sownd, Edna, dy fabi di fydd y cynta i ga'l ei eni o dan y drefen newydd."
Dywedodd Aneira, gafodd ei henwi ar ôl y gwleidydd Aneurin Bevan sefydlodd y drefn newydd, ei bod hi'n edrych ymlaen at ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd ym mis Gorffennaf.
Dydd Gwener roedd Mr Morgan a'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, yn cwrdd â'r fam i ddau yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Pe bai hi wedi ei geni ddiwrnod ynghynt, meddai, fe fyddai ei rheini, Edna a Willie, wedi gorfod talu swllt a chwe cheiniog i Ysbyty Dyffryn Aman yng Nglanaman.
Roedd ei thad yn gweithio ym Mhwll Glo'r Mynydd Mawr yn Y Tymbl ar y pryd a'i gyflog oedd saith swllt.
"Wy'n falch iawn o'r Gwasanaeth Iechyd," meddai'r cyn-weithiwr iechyd meddwl, "ond yn becso am effaith biwrocratiaeth a'r pwyslais ar gyrraedd targedau.
Tystysgrif geni Aneira
|
"Dyw pobol ifanc heddi ddim yn gwybod pa mor lwcus y'n nhw.
"Mae'r doctoriaid wedi achub 'y mywyd i deirgwaith a'r ŵyr ... o'dd e mewn coma ..."
Cyn y Gwasanaeth Iechyd, meddai, roedd ysbytai yn codi prisiau eu hunain a hynny'n dibynnu ar gyfraniadau cynghorau lleol.
'Gwahanol'
"Roedd yr ysbytai yn llefydd gwahanol amser 'ny," meddai.
Ar y pryd, meddai, roedd smygu yn cael ei ystyried yn rhywbeth llesol, yn rhywbeth oedd yn helpu cleifion i ymlacio.
Ar wahân i gyfnod ymweld o awr, doedd yna ddim croeso o gwbl i ddynion ar ward mamolaeth.
"O'dd hi'n fraint fawr i Mam," meddai. "I fod yr un gynta."
Yr wythnos nesa ar Orffennaf 5 fe fydd hi'n mynd i Dredegar, lle cafodd Aneurin Bevan ei eni, i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd.