Mae 'na bryder pam bod cymaint o gocos wedi marw
|
Fe fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i farwolaeth dros 6,000 o dunelli o gocos.
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai'r golled yn Llanelli a'r Cylch fygwth dyfodol y diwydiant.
Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson, a Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, sydd wedi gofyn i'r asiantaeth arwain yr ymchwiliad.
Dywedodd Ms Davidson fod achos y marwolaethau yn "ansicr" ond bod 'na sawl damcaniaeth.
"Mae'r rhain yn cynnwys ansawdd y dŵr," meddai.
"Ond mae 'na awgrym bod 'na gynnydd yng ngwres y dŵr, yr awyr a'r algâu.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n ymchwilio i'r achos yn drylwyr."
Pryderon
Dywedodd Ms Jones fod Llywodraeth y Cynulliad yn gwerthfawrogi pryderon y diwydiant.
"Mae'n bwysig i'r gymuned leol ein bod ni'n canfod achos y marwolaethau mor fuan â phosib," ychwanegodd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr asiantaeth, Chris Mills, eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Mae'r llywodraeth wedi nodi'n glir eu bod eisiau i fudiadau eraill fod yn rhan o'r ymchwiliad," meddai.
Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Meryl Gravell, wedi croesawu'r ymchwiliad.
Dywedodd y byddai'r cyngor yn cyd-weithio'n llawn.