BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Mehefin 2008, 13:45 GMT 14:45 UK
Marwolaeth Cymro: Arestio dyn
Jonathon Hiles
Bu farw Jonathaon Hiles tra ar ei wyliau yng Ngwlad Groeg
Mae dyn 19 oed yn wynebu achos traddodi ar l cael ei arestio mewn cysylltiad marwolaeth Cymro yng Ngwlad Groeg yn 2007.

Bu farw Jonathon Hiles, 18 oed o Gaerdydd, ar l yr hyn ddigwyddodd mewn clwb nos pan oedd ar ei wyliau yn Zakynthos yn 2007.

Fe ymddangosodd Andrew Symeou, myfyriwr 19 oed ym Mhrifysgol Bournemouth, ger bron Ynadon Westminster yn Llundain ddydd Gwener.

Cafodd ei ryddhau ar fechnaeth a bydd yn ymddangos yn yr un llys ar Orffenna 7 ar gyfer gwrandawiad i'w estraddodi i wlad Groeg.

Cafodd Mr Symeou ei arestio yn ei gartref yn Enfield, Llundain, ar amheuaeth o ddynladdiad ar l i warant gael ei chyhoeddi gan yr awdurdodau yng Ngroeg.

Fe wnaeth mam Mr Symeou warantu ernes o 20,000 ar gyfer ei fechnaeth.

Bu'n rhaid iddo ildio ei basport i'r heddlu.

Yn l amodau?r fechnaeth mae'n rhaid iddo aros yng nghartre ei deulu nes yr achos llys.

Dywed Heddlu'r De fod teulu Jonathon wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Roedd y Cymro newydd orffen ei gwrs yng Ngholeg Glan Hafren yng Nghaerdydd.

Yn aelod o Dm Iau Diawliaid Caerdydd roedd wedi cynrychioli Prydain mewn cystadlaethau hoci i a hoci ar olwynion yn Detroit ac yn Y Swistir.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^