Fe fydd y cynllun yn chwilio am luniau fel yr un hwn o Ynys Môn
|
Fe fydd casgliad ar-lein o hanes Cymru a'i phobl yn cael ei sefydlu, y cyntaf o'i fath yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas, y byddai Casgliad y Bobl yn defnyddio technoleg ryngweithiol i "ddod â hanes yn fyw" i genedlaethau newydd ac annog twristiaeth ddiwylliannol.
Fe fydd pobl yn gallu defnyddio'r safle i greu casgliadau personol a bod yn rhan o drafodaethau ar-lein.
Mae disgwyl i ddefnyddwyr gael eu golwg cyntaf ar y casgliad erbyn diwedd 2009.
Roedd sefydlu casgliad yn addewid yng nghytundeb Cymru'n Un, sail i lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru.
Cyhoeddodd y gweinidog y byddai £2 filiwn ar gael i ddatblygu'r prosiect dros y tair blynedd nesaf.
Fe fydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn paratoi casgliadau am bynciau sy'n cynnwys hanes chwaraeon a hanes cymdeithasol ieithoedd Cymru.
Adnoddau
Wedi i'r system gael ei sefydlu bydd cyfle i ddatblygu adnoddau ychwanegol.
Mae 'na enghreifftiau o gasgliadau tebyg ar draws y byd, gan gynnwys Amgueddfa Rhithwir Canada.
Y gobaith ydi y bydd y lluniau yn adrodd hanes cymunedau lleol
|
Fe all pobl chwilio trwy gasgliadau ac orielau Tate Modern yn Llundain ar-lein a chreu taith bersonol drwy'r amgueddfa cyn mynd yno.
Mae gan Amgueddfa Cymru wefan o'r enw Rhagor sy'n dehongli casgliadau mewn dulliau gwahanol.
Wrth gyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer Casgliad y Bobl, dywedodd Mr Thomas: "Rwy'n awyddus i weld cenedlaethau newydd yn manteisio ar atgofion, ffotograffau, dogfennau, sain a ffilm sy'n adrodd hanes pobl a chymunedau yng Nghymru.
"Mae technoleg heddiw yn golygu y gall pawb, nid yn unig y rhai sy'n ddigon ffodus i fyw yng Nghymru ond ymwelwyr a darpar ymwelwyr i'r wlad, ddysgu mwy am ein treftadaeth, diwylliant a'n tirweddau hanesyddol."
Linda Tomos sy'n gyfrifol am y cynllun ar ran y llywodraeth.
"Rydyn ni'n gwybod beth sy yn ein casgliadau cenedlaethol ni ond beth sydd yn 'atig ddigidol' pawb?" meddai.
"Rydyn ni'n edrych mlaen yn fawr iawn i ddarganfod trysorau newydd."