BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2008, 19:13 GMT 20:13 UK
Croeso cynnes i lysgennad Israel
Ron Prosor
Dywed Mr Prosor ei fod wedi cael croso cynnes yng Nghymru

Dywed Llysgennad Israel ym Mhrydain ei fod wedi cael croeso gwresog yng Nghymru er gwaetha galwad gan un o brif wleidyddion Cymru i ACau gadw draw.

Yn ystod y dydd mae Ron Prosor wedi cyfarfod nifer o bobl gan gynnwys cynrychiolwyr o'r byd busnes, academaidd a gwleidyddion.

Roedd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi galw ar ACau i gadw draw o dderbyniad yn sgil polisÔau Israel yn erbyn y Palesteiniaid.

Cyn y cyfarfod roedd 'na tua 30 o bobl yn cynnal protest heddychlon y tu allan i'r Senedd.

Ond fe wnaeth rhai protestwyr geisio mynd i mewn i Dŷ Hywel drws nesaf i'r Senedd.

Cefnogaeth

Cafodd tri o bobl, dwy ddynes a dyn, eu harestio meddai Heddlu De Cymru ac maen nhw'n cael eu holi mewn cysylltiad ‚ throseddau'n ymwneud ‚'r drefn gyhoeddus.

Dywedodd Mr Prosor nad ydi boicot yn gwneud unrhyw synnwyr mewn cynulliad neu senedd.

Yr Arglwydd Elis-Thomas
Roedd Llywydd y Cynulliad wedi galw ar ACau i gadw draw o'r derbyniad

Fe wnaeth rhai ACau ymuno gyda'r protestwyr, sy'n gwrthwynebu presenoldeb y llysgennad ac am ddangos eu cefnogaeth i'r Palesteiniaid.

Roedd tua 15 aelod yn bresennol yn y derbyniad yn y Senedd gafodd ei drefnu gan unig aelod Moslemaidd y Cynulliad, Mohammad Asghar, AC Plaid Cymru.

Yn gynharach fe fu Mr Prosor yn cyfarfod arweinwyr y pleidiau gwleidyddol.

"Mae'n wych i fod yma yng Nghaerdydd, dwi'n falch iawn," meddai.

"Dwi wedi cael croeso cynnes iawn.

"Rydym yn cynnal trafodaeth agored..." ychwanegodd.

Mae Llywydd y Cynulliad yn gwrthwynebu'r ffordd mae Israel yn trin Palesteiniaid.

Dywed Arglwydd Elis-Thomas nad yw Israel "yn cwrdd ‚'i hymrwymiad rhyngwladol" tuag at y Palesteiniaid.

Mewn e-bost gafodd ei ryddhau i'r wasg, dywedodd: "Dydw i ddim yn fodlon derbyn y gwahoddiad i gwrdd ‚'r llysgennad oherwydd fy mod yn gwrthwynebu methiant gwladwriaeth Israel i gwrdd ‚'i hymrwymiad rhyngwladol tuag at bobl Palesteinia.

"Dwi'n gwahodd cydweithwyr i wneud yr un fath".



HEFYD
Ffrae am ymweliad llysgennad
11 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^