I'w hurddo fore Llun 4 Awst 2008. Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Bu'r ymgeisydd canlynol yn llwyddiannus yn arholiad Iaith Ofydd 2 yn unig: Ian Christopher Thomas, Llandaf, Caerdydd
Enillydd Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006:
Katherine Allen, Yr Eglwys Newydd - Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007:
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Trefor Pugh, Trefenter, Ceredigion -Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
Gavin Ashcroft, Pontypridd - Enillydd Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
Gwawr Edwards, Bethania, Llannon - Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
Robyn Lyn Evans, Caerfyrddin - Enillydd Gwobr Goffa David Ellis
Llio Eleri Evans, Llanfairpwll - Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts
Glain Llwyd, Cefnddwysarn, Y Bala -Enillydd Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed
Gwion Aled Williams, Llansannan, Dinbych - Enillydd Gwobr Richard Burton
Rhian Evans, Y Tymbl - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
Julie MacMillan, Ynyswen, Y Rhondda - Enillydd Dysgwr y Flwyddyn
Urdd Derwydd er Anrhydedd
Nic Ros, Rhiwlas, Bangor - Enillydd y Fedal Ddrama
Mary Annes Payne, Dwyran, Llanfairpwll - Enillydd y Fedal Ryddiaith
Tony Bianchi, Caerdydd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen
I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif
gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod
Janet Evans (Sioned o'r Llan), Llanbedr Pont Steffan
Neli Jones (Elinor Fflur), Pontrhydfendigaid
Rob Nicholls (Robert Nichol), Caerdydd
Teifryn Rees (Teifryn), Felinfoel
Margaret Williams (Margaret Bryn), Caerdydd
I'w hurddo fore Gwener, 8 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008:
Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)
Mallt Anderson, Caerdydd Mae enw Mallt Anderson yn enwog drwy Gymru gyfan
oherwydd ei hymroddiad i fywyd diwylliannol y genedl. Yng nghanol ei phrysurdeb,
un o'i chymwynasau mwyaf â Chymru yw ei gwaith allweddol yn sicrhau na
fyddwn byth eto yn anghofio Gwenllian, Tywysoges "Goll" Cymru, a sefydlu
Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.
Rhian Bebb, Machynlleth Mae hi wedi ennill yn haeddiannol le amlwg yn
cyfansoddi a hyfforddi a pherfformio ym myd canu gwerin, yn arbennig gyda'r delyn
deires a'r acordion. Bu'n llysgennad dros ddiwylliant gwerin Cymru ar draws
gwledydd y byd, a bu'n ddisglair ei chyfraniad i gymdeithasau ac eisteddfodau yn ei
bro a thrwy Gymru.
Janine Wyn Davies, Pont-rhyd-y-fen Rhagorodd yn ei maes fel bydwraig nes
gwneud cyfraniad sylweddol fel ymchwilydd ac uwch-ddarlithydd yn y pwnc
ym Mhrifysgol Morgannwg. Ond drwy ei chysylltiadau â'r diwylliant Cymraeg yn
aelwydydd yr Urdd fe fagodd ymroddiad at yr iaith, a bellach mae'n ddylanwadol
yn hybu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Sydney Gwendoline Davies, Glyn Ceiriog Gwraig gampus i'w chymdogaeth. Wedi priodi Theo Davies o Lyn Ceiriog ymsefydlodd yn y dyffryn gan gyfrannu'n gyfoethog iawn at fywyd masnachol a chrefyddol a diwylliannol y fro
ar hyd yr hanner canrif y mae wedi bod yno. Ym mhob gweithgaredd o bwys yn y
rhan hon o Gymru mae ganddi hi ryw gyfran allweddol.
Aled Edwards, Cilfynydd Ar hyn o bryd mae'n Brif Weithredwr Cytûn, a
chyfrannodd eisoes yn effeithiol at gyd-ddeall rhwng cymunedau a chrefyddau
yng Nghymru. Y mae'n fedrus wrth ymgyrchu dros gyfiawnder mewn
materion megis cydraddoldeb hiliol a hynt ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan fod yn
llais a chydwybod yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Caradog Evans, Yr Hendy Bu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol dros nifer
helaeth o flynyddoedd fel adroddwr, arweinydd cynhyrchydd drama a beirniad, a
chyflwynydd medrus ar lwyfan y Babell Lên. Gwasanaethodd hefyd fywyd
diwylliannol y bröydd y bu'n byw ynddyn nhw, yn arbennig fel actor a chynhyrchydd a
chadeirydd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn Abertawe.
Y Tad Tony Hodges, Caerdydd Camp fawr iddo, ar gyrion Caerdydd ar dir
anaddawol iawn, lwyddo i feithrin plwyf Catholig ffyniannus, dwyieithog. Er ei fagu
ar aelwyd Saesneg, ymddiddorodd yn hanes Cymru a'i hiaith yn ystod ei hyfforddiant
fel offeiriad, a bellach y mae ei ymroddiad deublyg, i'r Ffydd ac i ddiwylliant Cymru,
yn ysbrydoliaeth i bawb o'i gyfoedion.
William Maldwyn James, Capel Bangor, Aberystwyth Ymhlith ei rinweddau mawr y mae ei ymroddiad diarbed i wahanol achosion, gan gynnwys ei wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol. Y mae'n organydd yn ei eglwys ers 56 o
flynyddoedd, ac ers cyfnod maith yn Glerc y Cyngor Cymuned, yn Ysgrifennydd
Cymdeithas y Deillion yng Ngheredigion, ac yn gwasanaethu ar Gyngor Cymru.
Dewi Morris Jones, Bronant, Aberystwyth Rhoddodd oes o wasanaeth fel
golygydd proffesiynol gan olygu cannoedd o deipysgrifau a'u llywio drwy'r wasg. Y
mae hwn yn waith creadigol sy'n gofyn am grebwyll llenyddol yn ogystal â manylder
technegol. Y mae'n ŵr o ddiwylliant eang, yn rhugl ei Lydaweg a'i Ffrangeg, ac yn
ymroddgar yn ei wasanaeth i'w gymuned yn ei fro.
Heather Jones, Caerdydd Yn gantores amryddawn a phoblogaidd iawn.
Dysgodd Gymraeg, a thros gyfnod maith bu'n brysur yn hyrwyddo'r iaith drwy ei
thalentau. Perfformiodd mewn ysgolion a chartrefi henoed yn ogystal ag ar
lwyfannau teledu a chyngherddau canu pop. Ysbrydolodd genedlaethau o
ddysgwyr, ac y mae Cymru oll wedi ei chymryd at ei chalon.
Rhian Jones, Llangwm Ers iddi ymgartrefu yn Llangwm bu ei chyfraniad i
draddodiad cerdd a cherdd dant yr ardal yn eithriadol. Bu'n hyfforddi unigolion a
phartïon a chorau cerdd dant ers degawdau, a gwelir ei henw yn aml fel beirniad yn
yr Eisteddfodau Cenedlaethol a'r ŵyl Gerdd Dant. Cyfrannodd at ddealltwriaethau
cenedlaethau o ieuenctid yng nghyfrinion y grefft.
Roy Noble, Aberdâr Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg, gan ennill nifer o
ysgoloriaethau, a theithio amryw wledydd. Pan droes at ddarlledu cydnabuwyd ei
ddawn a'i allu naturiol gan y gwobrau a ddyfarnwyd iddo. Bu'n weithiwr selog dros
gyfnod maith yn cefnogi mudiadau gwirfoddol, a daw ei boblogrwydd a'i
bersonoliaeth i'r golwg yn ei gyfrolau yn Gymraeg a Saesneg.
John Price, Machynlleth Crefftwr cain sy'n gelfydd eithriadol wrth drin
metelau. Lluniodd lu o goronau a thlysau i eisteddfodau a gwyliau lleol a
chenedlaethol, gan gynnwys pedair coron i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n
beirniadu yn rheolaidd yn yr adran grefftau yn y Sioe Frenhinol. Ac, yn goron ar ei
gyflawniadau, y mae'n eang ei ddiwylliant, yn ymroddgar i'w eglwys a'i gymdeithas.
Bethan Smallwood, Llangwm Pan ddychwelodd i Langwm daeth yn un o
gymwynaswyr pennaf y fro. Y tu hwnt i'w dyletswyddau fel athrawes gerdd yn y
Bala bu'n llwyr ei hymroddiad i Aelwyd Llangwm yn dysgu unawdwyr a phartïon. Ac
fel arweinyddes ddawnus Côr Meibion Llangwm fe'u tywysodd i gyfnod arbennig o
lewyrchus mewn eisteddfod a chyngerdd, adre a thramor.
Elfyn William Thomas, Caernarfon Bu'n gefnogwr brwd i bob agwedd ar
ddiwylliant Cymru. Yn Eisteddfod Tyddewi 2002 enillodd wobr Menter a Busnes am
hyrwyddo'r Gymraeg. Fel rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Seren Arian trefnodd
deithiau i holl brifwyliau Cymru yn ogystal â theithiau i bedwar ban byd i gefnogi sêr
fel Bryn Terfel, a Gwyn Hughes Jones.
Myra Turner, Waunfawr, Caernarfon Ers blynyddoedd bu'n un o gynheiliaid
eisteddfodau lleol a thaleithiol Cymru fel cystadleuydd cyson. Byddai hefyd yn cludo
eraill gyda hi, a'r cwmni o gystadleuwyr yn gaffaeliad gwerthfawr i bob eisteddfod.
Byddai hithau bob amser yn ddeallus ei dehongliad a choeth ei mynegiant, a bu'n
fuddugol am adrodd yn holl brif Eisteddfodau'r wlad.
John Ellis Williams, Llanrug Llenor unigryw. Y mae'n nofelydd, yn
gyfrannwr cyson i Eco'r Wyddfa a chyfnodolion lu. Teithiodd y byd, gan gerdded yng
nghwmni sipsiwn, gweithio yng nghaeau gwenith Ffrainc a chyda ceffylau gwyllt y
Camargue, a dod yn gyfaill agos i Mme. Simone de Beauvoir. Yna crwydro pellach,
o'r Sierra Nevada i'r Swistir. Bellach mae yn ôl yng Ngwynedd.
Urdd Derwydd
Bethan Bryn, Aberystwyth Ers dros ddeugain mlynedd bu yn gweithredu fel
telynores swyddogol ym mhrif Eisteddfodau a gwyliau Cymru. Yn ogystal â bod yn
berfformwraig o'r radd flaenaf, y mae'n cyfansoddi, hyfforddi a beirniadu yn gyson.
Bu'n arweinydd nifer o bartïon a chorau, gan arwain pob un ohonynt yn eu tro i
fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Hazel Walford Davies, Aberystwyth Yn academydd sydd wedi
cyfrannu'n sylweddol i wyddor y theatr yng Nghymru. Y mae'n feirniad llenyddol ac
yn awdur a golygydd toreithiog. Ers blynyddoedd fe fu'n gadeirydd ac aelod ar nifer o gyrff allweddol ym myd addysg, yng Nghymru a thramor, gan wasanaethu'n aml fel Athro ymweliadol mewn nifer o brifysgolion.
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Caerdydd Saif ar ei ben ei hun ymhlith
gwleidyddion Cymru. Bu'n annibynnol ac anghonfensiynol ei farn ar lu o bynciau, ac
enillodd barch ac edmygedd mawr ei gyd-Gymry am ddisgleirdeb ei allu a
threiddgarwch ei weledigaeth. Fel Llywydd y Cynulliad sefydlodd ddelwedd arhosol
i'r swydd honno, sy'n gyfuniad o gadernid ac urddas.
Rebecca Evans, Penarth Mae hi heddiw ar frig ei gyrfa, gyrfa a'i harweiniodd
eisoes i dai opera a neuaddau cyngerdd enwoca'r byd. Enillodd yn ddiweddar y
wobr am y Recordiad Opera gorau, a threchu perfformiadau'r meistri. Y mae ei
phersonoliaeth, ei dawn naturiol a'i llais gwefreiddiol wedi ennyn ymateb brwd a
chanmoliaeth gan adolygwyr praffaf byd cerdd.
Athro Julian Hopkin, Abertawe Mae iddo le anrhydeddus ym meddygaeth
Cymru. Wedi gyrfa ddisglair mewn gwahanol ganolfannau ymchwil, ef a fu'n bennaf
cyfrifol am sefydlu Ysgol Feddygol yn Abertawe. Y mae'n Athro Ymweliadol mewn
gwahanol Brifysgolion tramor, a'i gyhoeddiadau, gan gynnwys ei gyfrol Gymraeg, Y
Medic, yn niferus a dylanwadol.
Dr E. Wyn James, Caerdydd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac
academydd eang ei ddiddordebau. Y mae'n ŵr cadarn ei farn a'i argyhoeddiad ac
yn awdurdod cydnabyddedig yn ei brif feysydd ymchwil. Er amled ei weithgareddau
colegol y mae'n arbennig o ymroddgar yng nghylchoedd diwylliannol ei fro a'i wlad,
yn weithgar yn ei eglwys a chyda papur bro Y Dinesydd.
Caryl Parry Jones, Y Bont-faen Y mae gallu a'i dawn wedi ennyn edmygedd
Cymru oll. Bu'n Fardd Cenedlaethol Plant Cymru, cyfansoddodd rai o ganeuon
ysgafn gorau'r iaith, yn awdur sgriptiau radio a theledu a ffilm, yn gynhyrchydd a
hyfforddwraig, ac yn feirniad cenedlaethol. Drwy'r cyfan gweithiodd yn wirfoddol a
diflino dros Addysg Gymraeg.
Geraint Wyn Jones, Bangor Cydnabyddir ei fod yn un o brif addysgwyr ei gyfnod,
ac un sydd wedi gwneud cyfraniad gwir ganmoladwy i ddysgu Cymraeg fel ail iaith.
Yn ei gyfnodau cynhyrchiol yn ddarlithydd yng Ngholeg Harlech a'r Brifysgol ym
Mangor gwnaeth waith arloesol a chreiddiol yn y maes hwn, ac ef a fu'n allweddol
yn sefydlu gwobr Dysgwr y Flwyddyn.
John Glyn Jones, Dinbych Bu cyfraniad i ddiwylliant Cymraeg ardal Dinbych yn
eithriadol. Ar wahân i'w lwyddiant fel Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, a'i
wasanaeth fel Ynad Heddwch, y mae'n fardd o safon genedlaethol, ac yn un o
swyddogion Barddas. Mae'n arweinydd tîm y Talwrn â thîm y papur bro, ac yn
gyfrannwr ymroddgar ym myd iaith a chrefydd a gwleidyddiaeth.
John Gwynfor Jones, Caerdydd Cyhoeddodd eisoes nifer helaeth o gyfrolau ac
erthyglau gan sefydlu ei le yn brif awdurdod yn ei faes yn hanes Cymru. Bu'n hybu,
dysgu a chyfarwyddo myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ledu'r egwyddor honno i faes arholiadau'r ysgolion. Bu hefyd yn ymroddedig iawn ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd.
J. Gareth Llewelyn, Caerdydd Cyfrifir ef bellach yn un o brif Niwrolegwyr
Prydain. Ef oedd y symbylydd i sefydlu amryw o glinigau niwrolegol yng Ngwent a
thros Gymru. Y mae ei waith wedi ennyn edmygedd y byd meddygol, a'r llynedd
enillodd y Cymro twymgalon hwn y Wobr Efydd am ragoriaeth glinigol. Bu'n frwd ei
gefnogaeth i werth gwasanaeth meddygol dwyieithog.
Kenneth O. Morgan, Witney, Swydd Rhydychen Bu bellach yn arweinydd yn
hanes modern Prydain am dros ddeng mlynedd ar hugain, a'i gydnabod ledled y byd
am ei waith ar hanes Cymru a'r Blaid Lafur. Fe'i dyrchafwyd yn Farwn Morgan o
Aberdyfi, gan wasanaethu Tŷ'r Arglwyddi ar ei Bwyllgorau allweddol. Y mae
mwyafrif ei gyfrolau cynhwysfawr yn gyfraniad arhosol i hanes ein gwlad.
David Raymond Owens, Caerdydd Y mae ei ddoniau meddygol wedi dwyn iddo
glod a chydnabyddiaeth byd eang. Y mae Cymru'n elwa'n helaeth ar ei wybodaeth
arbenigol ym myd clefyd y siwgr, a sefydlodd wasanaeth sgrinio sydd gyda'r gorau
yn Ewrop. Er ei brysurdeb fe ddeil i gefnogi'n gyson ddiwylliant a chelf yng
Nghymru, yn ogystal â'r Eisteddfod Genedlaethol.
Syr Emyr Jones Parry, Caergrawnt Cafodd yrfa ddisglair fel gwyddonydd cyn
ymuno â'r Swyddfa Dramor. Bu'n ddiplomydd medrus mewn gwahanol wledydd nes
ei ddyrchafu'n Gynrychiolydd Prydain yn NATO ac yna yn Llysgennad Prydain yn Y
Cenhedloedd Unedig. Dychwelodd i swydd allweddol yn natblygiad ein cenedl, fel
Cadeirydd y Confensiwn ar ddyfodol y Cynulliad.
Gaynor Morgan Rees, Dinbych Cipiodd galon cynulleidfaoedd drama a
gwylwyr teledu yng Nghymru, gan ymddangos mewn prif rannau yn ein theatrau, ac
yn ffilmiau a chyfresi teledu mwyaf poblogaidd ein cyfnod. Mae'n fywiog a diarbed
ei gwasanaeth yn gymdeithasol, fel yn ei thymor yn Faeres Dinbych. Mae'n parhau'n
llawn prysurdeb yn ffilmio, darlithio a hyfforddi.
Matthew Rhys, Caerdydd Dechreuodd ei yrfa pan gafodd ei gastio yn y ffilm
Gymraeg, "Bydd yn Wrol", ac wedyn yn y ddrama Gymreig, "House of America".
Ond daeth yn seren yn y gyfres deledu Americanaidd, "Brothers and Sisters", gan
ennyn sylw a chlod rhyngwladol. Y mae disgleirdeb ei berfformiadau ar lwyfan ac
mewn ffilm wedi ei sefydlu fel un o actorion gorau Cymru.
Tim Saunders, Caerdydd Cafodd ei eni i rieni o dras Albanaidd a Gwyddelig, a chael ei
fagu yng Nghernyw. Dysgodd Gymraeg gan ddatblygu yn bolymath o Gelt,
toreithiog eithriadol ei waith mewn cyhoeddi a darlledu a hyfforddi. Cyfansoddodd
gerddi mewn tair o'r ieithoedd Celtaidd, ond Cymru sydd wedi elwa fwyaf ar ei
weithgareddau amryddawn yn gymdeithasol a diwylliannol.
Catrin Stevens, Casllwchwr Mae ei chyfraniad i iaith a diwylliant Cymru yn un cwbl
nodedig. Y mae'n llenor, awdur cynhyrchiol a hanesydd, wedi Cadeirio a Llywyddu
dau brif fudiad cenedlaethol, ac yn aelod treiddgar ei barn ar Bwyllgorau Canolog yr
Eisteddfod. Y mae ei gweithgaredd lleol yr un mor ddiflino, megis ei gwaith yng
Nghasllwchwr yn hyrwyddo trosglwyddiad yr iaith yn y fro.
Hywel Williams, Caernarfon Yn ei swydd gyntaf fel gweithiwr cymdeithasol bu'n arloesi drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y datblygai ei yrfa gwelwyd ei ymroddiad
dros yr iaith yn dwyn ffrwyth, yn arbennig mewn perthynas â Chyngor Gwaith
Cymdeithasol, a chyhoeddodd gyfrolau a phapurau treiddgar eu gweledigaeth. Ers
2001 y mae'n Aelod Seneddol gweithgar a dylanwadol.