BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Mehefin 2008, 06:33 GMT 07:33 UK
Yr Orsedd yn anrhydeddu'r Cymry
Matthew Rhys
Matthew Rhys fydd un o'r rhai gaiff eu hanrhydeddu eleni

Fe fydd yr actor Matthew Rhys a'r gantores Heather Jones yn cael eu hanrhydeddau gan Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch.

Mae 'na 36 o bobl yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni.

Fe fydd 17 yn derbyn y wisg werdd ac 19 yn cael y wisg wen, nifer sydd gryn dipyn yn fwy na'r nifer yn y blynyddoedd diweddar.

Mae'r rhestr yn cynnwys gwleidyddion, actorion, perfformwyr yn ogystal a nifer o academyddion blaenllaw.

Ond hefyd mi fydd yna bobl yn cael eu hanrhydeddu am weithio dros y Gymraeg a'r Eisteddfod yn eu cymunedau.

Ymhlith y rhai fydd yn cael y wisg werdd, y mae Prif Weithredwr Cytn, Aled Edwards, y gantores Heather Jones a'r darlledwr Roy Noble.

Yn derbyn y wisg wen y bydd Caryl Parry Jones, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Yr Arglwydd Elis-Thomas, Aelod Seneddol Caernarfon Hywel Williams, Cadeirydd y Confensiwn ar ddyfodol y Cynulliad, Syr Emyr Jones Parry, y gantores Rebecca Evans, yr actor Matthew Rhys.

Mae Matthew Rhys wedi cael cyn sylw yn ddiweddar wrth i'r ffilm The Edge of Love gael ei rhyddhau.

Matthew sy'n chwarae'r Cymro Dylan Thomas.

Fe fydd o'n derbyn y wisg wen.

'Anrhydedd'

"Mae'n anrhydedd, yn fraint enfawr.

"Roeddwn i wedi synnu o gael y newyddion."

Cafodd Heather Jones fel Matthew ei geni a'i magu yn y brifddinas.

Wedi dysgu Cymraeg mae hi wedi gwneud enw iddi ei hun ar lwyfannau cerddorol Cymru ers y 1960au.

Heather Jones
Caiff Heather Jones y wisg werdd

Y wisg werdd fydd hi'n ei dderbyn.

"Mae'n anrhydedd mawr, mawr, mawr i mi.

"I ferch sy'n dod o Gaerdydd, sydd wedi dysgu siarad Cymraeg, mae'r teulu i gyd yn edrych ymlaen yn fwy na fi i fod yn onest.

"Roedd fy nhad-cu a hen dad-cu yn siarad Cymraeg.

"Mae'r anrhydedd yn rhywbeth mawr iawn i'r teulu i gyd."

Dywedodd y darlledwr Roy Noble fod yr anrhydedd yn "dipyn o syndod".

Yn enedigol o Frynaman mae o wedi dewis Roy o'r Gwter Fawr, fel ei enw ar gyfer yr Orsedd.

Y Gwter Fawr oedd hen enw pobl yr ardal ar Frynaman.

Caiff Prif Weithredwr Cytn, Aled Edwards ei anrhydeddu i'r wisg werdd hefyd.

"Mae cael fy ngwneud yn aelod o'r Orsedd yn golygu llawer i mi ar lefel bersonol," meddai.

"Yn broffesiynol hefyd, y math o bethau dwi'n ymwneud nhw, iawnderau dynol, cydraddoldeb ac elfennau rhyngwladol.

"Dwi'n falch fod yr Orsedd yn croesawu'r math yna o effaith i mewn i'w plith. Mae'n braf iawn.




O'R MAES

O'R ARCHIF

YR ORSEDD

CEFNDIR

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^