BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2008, 10:59 GMT 11:59 UK
Sut y bydd 6,500 o dai yn cael eu codi?

Safle adeiladu (generic)
Fe ddylai dros 6,000 o dai gael eu hadeialdu o dan y cynlluniau

Mae adolygiad Essex yn dweud os fydd 6,500 o dai fforddiadwy yn cael eu codi yng Nghymru, rhaid i bawb yn y borses gyd-weithio'n well.

Ond sut y bydd cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad yn cyd-weithio er mwyn adeiladu cymaint o dai newydd?

C: Sut y bydd cymdeithasau tai yn gallu helpu?

A: Ar hyn o bryd mae cymdeithasau tai yn gweithio o dan nifer o reolau a deddfwriaethau ynglŷn a'r hyn y maen nhw'n gallu a methu eu gwneud. Yn nhermau rhyddid i weithredu yn annibynnol, maen nhw'n cael eu rheoli'n rhannol gan Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, cyn eu bod yn gallu prynu tir i'w ddatblygu mae'n rhaid cael caniatâd Llywodraeth y Cynulliad. Un newid allweddol fyddai llacio rheolau ar faint o arian y maen nhw'n gallu ei fenthyca. Os fyddan nhw'n cael benthyca arian yn erbyn eu stoc bresennol fe allai godi dros £100 miliwn ar gyfer y sector. Gall hwn gael ei ddefnyddio i adeiladu tai fforddiadwy ac fe fydd yr arian a gafwyd o werthu'r tai ar gael i'w ail-fuddsoddi.

Q: Be fydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i greu mwy o dai fforddiadwy?

A: Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ryddhau tir ar gyfer ei ddatblygu a gosod nifer o dargedau ar gyfer nifer o dai fforddiadwy i'w hadeiladu yn eu hardaloedd. Un o'r prif ffyrdd i wneud hyn yw llunio cytundeb gyda datblygwyr. Os ydi datblygwr am godi nifer o dai drud, dylai cyngor roi caniatáu ar yr amod bod nifer penodol o dai fforddiadwy yn cael eu codi hefyd. Mae hyn eisoes yn digwydd ond mae Ms Essex am i gynghorau wneud hyn yn fwy aml.

Q: Be fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i gefnogi'r newidiadau?

A: Mae adroddiad yn dweud fod angen i Lywodraeth y Cynulliad fod yn fwy strategol ac i reoli llai. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod yn rhaid i'r cyllid i'r cymdeithasau tai fod yn sefydlog am dair blynedd i roi mwy o sefydlogrwydd.

Q: Be am gyflwr presennol y farchnad dai?

A: Mae'r farchnad o gaodi tai wedi arafu ac o bosib yn broblem wrth geisio cyrraedd y targed o 6,500. Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos bod 'na ostyngiad sylweddol yn y nifer o dai newydd sy'n cael eu codi yng Nghymru, gostyngiad o dros draean mewn tri mis. Yn ôl arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a Chyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) mae nifer y tai newydd wedi gostwng 36% rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni ac yn chwarter olaf 2007. Mae'r gostyngiad dros 1,000.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^