Tywysog Cymru a Duges Cernyw ar ymweliad ag Eglwys Tyddewi
|
Fe fydd Tywysog Charles a Duges Cernyw yn aros am y tro cyntaf yn eu cartref yng ngorllewin Cymru yn ystod eu taith haf.
Fe wnaeth Dugiaeth Cernyw brynu Stad Llwynywermod ym Myddfai, Sir Gâr, yn 2006 ac ers hynny mae wedi cael ei adnewyddu.
Y tŷ fydd y lle i'r cwpl aros yn ystod eu taith bum niwrnod â Chymru.
Cychwynnodd yr ymweliad ddydd Llun yn Nhyddewi wrth iddyn nhw ailagor cloestrau canoloesol gafodd eu hadfer.
Roedd 'na dorf o tua 300 o bobl a phlant yno i'w croesawu.
Mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i'r ddinas bob blwyddyn.
Dwy flynedd o waith
Fe wnaeth côr y gadeirlan berfformio i'r cwpl wrth iddyn nhw gyrraedd.
Cafodd y Tywysog a'r Dduges gyfle i ymweld â'r eglwys a chael cyfle i gael tê yn y ffreutur newydd.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r ddau aros yn y ty er eu bod wedi ymweld sawl tro
|
Mae'r gwaith adnewyddu yn yr eglwys wedi cymryd dwy flynedd i'w gwblhau ar gost o £4.5 miliwn.
Yna, fe symudodd y ddau ymlaen i felin wlân Solfach cyn diweddu'r dydd yng Ngerddi Aberglasne ger Llandeilo.
Yno fe agorodd y Tywysog adeilad Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru cyn ymuno gyda'r Dduges ar daith o amgylch y gerddi.
Yn ystod yr wythnos mae disgwyl i'r ddau lansio Menter Mynyddoedd y Cambrian yn Llyswen, Aberhonddu, ymweld â fferm ger Aberystwyth ac ymweld â Distyllfa Penderyn ger Hirwaun.
Ac fe fydd 'na ginio arbennig gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, i nodi 50 mlynedd ers i'r Frenhines gyhoeddi y byddai Charles yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru.