Chwedloniaeth: 20,000 o seintiau wedi eu claddu ar yr ynys
|
Nid oedd y dyn oedd yn trefnu'r bererindod gyntaf mewn 20 mlynedd i Ynys Enlli mewn gwasanaeth arbennig ar yr ynys oherwydd salwch.
Roedd cannoedd yn ymgynnull ar draeth Aberdaron i wylio cwch yn cynnwys 30 o bererinion yn hwylio i'r ynys ddydd Sadwrn.
Ymhlith y rhai oedd yn gwylio o'r lan yr oedd Esgob Bangor, Anthony Crockett, drefnodd y drydedd bererindod swyddogol i'r ynys.
Roedd un yn 1950 ac un arall yn 1992.
Mae'r esgob yn diodde o ganser ac nid oedd ar y cwch aeth i'r ynys.
Am 10,30am y dechreuodd y bererindod, taith gerdded o Roshirwaun i Aberdaron.
18 mis
Ers 18 mis yr oedd y bererindod wedi cael ei threfnu.
"Mae'r trefniadau ar gyfer y diwrnod yn cynnwys pob math o weithgaredd," meddai cadeirydd pwyllgor y pererindod, y Parchedig Ganon Idris Thomas, ddydd Sadwrn.
Roedd cinio ar draeth Aberdaron, meddai, ac adloniant gan Brigyn, Meinir Gwilym a Lleuwen Steffan.
"Mae gobaith y bydd nifer dda o eglwysi'r esgobaeth, sy'n ymestyn o Gaergybi i Lanidloes ac o Enlli i Landudno, yn cymryd rhan.
"Ond mae croeso i unrhyw un fynd ar y daith."
Yn ôl chwedloniaeth, mae 20,000 o seintiau wedi eu claddu ar yr ynys.
Ac yn ôl traddodiad, roedd tair taith i'r ynys yn cyfateb i un bererindod i Rufain.
Dydd Sadwrn cyhoeddodd Gwasg y Lolfa gyfrol newydd Enid Roberts.
Mae'r gyfrol Bardsey Bound yn cyfeirio at hanes yr ynys, y llwybrau iddi ac yn ceisio esbonio pam yr oedd pererinion yn gadael eu teuluoedd a'u cymunedau i fynd ar daith beryglus i'r ynys.