BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Mehefin 2008, 08:19 GMT 09:19 UK
'Rhywbeth rhyfedd yn yr awyr'
Hofrennydd yr Heddlu
Fe welodd y criw yr awyren yn gynharach yn y mis

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod math anghyffredin o awyren wedi'i weld uwchben Bro Morgannwg yn gynharach yn y mis.

Ond does 'na ddim lluniau er gwaethaf ymdrechion i geisio tynnu rhai.

Roedd hofrennydd yr heddlu yn hedfan uwchben Canolfan y Llu Awyr yn Sain Tathan ar Fehefin 7.

Fe ddiflannodd yr awyren wedyn dros Fr Hafren ac mae ymchwiliad wedi cychwyn.

Dywedodd yr heddlu na wnaethon nhw ddilyn yr awyren.

'Yn brofiadol'

"Roedd y criw o dri'n brofiadol iawn ac fe wnaethon nhw ymateb yn broffesiynol ...," meddai'r datganiad.

"Mae 'na amrywiaeth o awyrennau yn yr awyr heddiw, pob maint a sip.

"Ac mae hyn yn cadarnhau bod rhywbeth o'r fath yn yr ardal ar y pryd."

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedden nhw wedi clywed dim byd am y digwyddiad.

"Yn sicr, ddylai hofrenyddion yr heddlu ddim mynd ar l yr hyn y maen nhw'n credu ydi UFO's," meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd eu bod wedi trefnu "gofod yn yr awyr" i'r hofrennydd a chaniatu iddyn nhw ddychwelyd i Sain Tathan i gael mwy o danwydd.



HEFYD
Taflu golau ar ddirgelwch yr UFO?
01 Ion 08 |  Newyddion
Rhyfeddod hud a lledrith Cymru
28 Gorff 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^