BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mehefin 2008, 14:25 GMT 15:25 UK
Bygythiad i swyddi Airbus?
Awyren KC-45A
Mae'r archeb am 179 o awyrennau KC-45A

Gallai perchnogion cwmni Airbus golli cytundeb gwerth biliynau o bunnau ar ôl i'r awdurdodau yn America gefnogi cwyn cwmni Boeing.

Roedd disgwyl i'r cytundeb olygu swyddi yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Ym mis Chwefror fe enillodd cwmni EADS y cytundeb ar gyfer 179 o awyrennau sy'n cario tanwydd, y cytundeb cyntaf o dri sy'n werth $100 biliwn.

Ond mae Swyddfa Atebolrwydd Llywodraeth America wedi dweud na chafodd y broses gywir ei dilyn wrth wneud y cais am y cytundeb.

Maen nhw wedi gofyn i Awyrlu America edrych eto ar y cynigion a ddaeth i law.

Fe fyddai'r adenydd yn cael eu gwneud yn Sir y Fflint lle mae'r cwmni'n cyflogi 7,400 o weithwyr.

Mwy o swyddi

Yn gynharach eleni dywedodd Airbus eu bod yn disgwyl creu mwy o swyddi yno.

Fe fyddai'r awyrennau tancer - y KC-45A - yn cael eu cynhyrchu ar y cyd rhwng EADS a chwmni Northrop Grumman o'r Unol Daleithiau.

Ac roedd disgwyl i Awyrlu America dderbyn yr awyrennau rhwng 2010 a 2011.

Dywedodd Howard Wheeldon, arbenigwr awyrofod ac amddiffyn, fod y penderfyniad diweddara yn mynd i fod yn gyfnod anodd I EADS ac Airbus.

"Fy marn i yw y bydd gennym ni gystadleuaeth gwbl newydd ac mae hyn yn mynd i olygu oedi o flwyddyn neu hyd yn oed mwy."



HEFYD
Hwb £20 biliwn i swyddi Airbus
01 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^