BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Mehefin 2008, 18:05 GMT 19:05 UK
Ceidwadwyr yn ad-drefnu cabinet
Alun Cairns
Fe wnaeth Alun Cairns ymddiheuro ac ymddiswyddo

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ad-drefnu eu cabinet ar l ymddiswyddiad Alun Cairns o gabinet yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Mr Cairns yn wynebu ymchwiliad canolog gan ei blaid ar l gwneud sylw am Eidalwyr ar raglen Radio Cymru Dau o'r Bae yr wythnos diwethaf.

Aelod Canol De Cymru, Andrew Davies, fydd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg tra bod AC De Sir Benfro, Angela Burns, yn symud i fod yn gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Cafodd Mr Cairns ei ethol fel ymgeisydd seneddol ei blaid ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad cyffredinol bron i flwyddyn yn l.

'Sylw anaddas'

Ond mae ei obeithion o gyrraedd San Steffan wedi cael ergyd ar l ei sylw ar y rhaglen radio ddydd Gwener.

Fe wnaeth Mr Cairns alw Eidalwyr yn "greasy wops".

Fe wnaeth ymddiheuro yn syth.

Dywedodd Mr Cairns ddydd Sadwrn: "Yn sgl fy sylwadau anaddas am Yr Eidal dwi ddim yn credu y gallaf barhau yn y ddwy rl hyn yn y Cynulliad.

"Dwi'n gresynu yn fawr fy mod i wedi dweud hynny a dwi'n ymddiheuro unwaith eto.

"Mae gen i barch mawr at Yr Eidal ac Eidalwyr ond dwi'n derbyn bod fy sylwadau, pa mor ddiofal bynnag, yn anaddas."

Er ei fod wedi ymddiswyddo fel llefarydd y blaid ar addysg a chadeirydd y pwyllgor cyllid mae Mr Cairns wedi cael ei wahardd fel ymgeisydd seneddol ac yn wynebu ymchwiliad gan gadeirydd ei blaid.



HEFYD
AC yn ymddiswyddo fel llefarydd
14 Meh 08 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^