Mae 165 swyddfa yng nghanolbarth Cymru ar hyn o bryd
|
Bydd 11 o swyddfeydd post yng nghanolbarth Cymru yn cau.
Daw hyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori.
Bydd dwy swyddfa a glustnodwyd yn wreiddiol i gau nawr yn aros ar agor - Pendre, ger Aberhonddu, a Ffordd Tremont yn Llandrindod.
Ond bydd cangen ym Mhenparc, ger Aberteifi, nad oedd ar y rhestr yn wreiddiol, bellach yn cau.
Beirniadu'r cynlluniau mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei wneud.
Mae'r cyhoeddiad yma yn rhan o gynllun ehangach y cwmni drwy'r Deyrnas Unedig.
Daw'r cyhoeddiad diweddara ar ôl cyhoeddiadau tebyg yng Nghaerdydd, Pen-y-Bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a chymoedd Gwent.
Fe fydd y cynllun ar gyfer y canolbarth yn gweld dim ond 154 o swyddfeydd yn dal ar agor.
Ar hyn o bryd mae 'na 165 o swyddfeydd yn y rhanbarth.
Dywed y cwmni na fydd dros 98.8% o boblogaeth y rhanbarth o 200,000 yn gweld unrhyw newid neu yn parhau i fod o fewn milltir i gangen arall.
 |
RHESTR O'R SWYDDFEYDD SYDD YN CAU
Llandrindod: Ridgebourne, Ffordd Grosvenor
Aberhonddu: Gorsaf Gwasanaethau Westend, Ffordd yr Eglwys, Llanfaes
Aberteifi:Penparc
Llanandras: Evenjobb
Blaenannerch: Gwasanaeth symudol ger y blwch ffonio A487
Llandysul: Glynarthen
Llanbedr Pont Steffan: Gwasanaeth symudol Abermeurig
Llanbedr Pont Steffan:Gwasanaeth symudol Talsarn, Ffordd Fawr B4337
Ystradgynlais: Cwmgiedd, 50-52 Heol Giedd
Y Drenewydd:Ffordd Llanidloes
Y Drenewydd: Garth Owen
Aberystwyth: Llanfarian
|
Fe fydd gwasanaeth newydd mewn 16 ardal yn cynnig gwasanaethau'r swyddfa am nifer cyfyngedig o oriau bob wythnos mewn ardal benodol drwy gyfrwng fan symudol, siop neu'r neuadd bentre.
Mewn cymunedau bychan gall cartrefi gael eu defnyddio i gynnig gwasanaethau neu mae modd archebu gwasanaethau dros y ffôn.
Dywedodd Swyddfa'r Post eu bod wedi cysylltu gyda Golwg ar Bost a'r awdurdodau lleol wrth lunio eu rhestr.
Fe wnaethon nhw ddweud eu bod wedi ystyried materion daearyddol, trafnidiaeth gyhoeddus, demograffig lleol ac effaith ar yr economi lleol wrth baratoi eu cynlluniau.
Ond mae'r ddau aelod Democratiaid Rhyddfrydol lleol yn y Senedd a'r Cynulliad, Roger Williams a Kirsty Williams, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn "siomedig" ac yn "niweidiol" i'r ardal.
Mae'r cynlluniau yn rhan o gynllun ehangach y Swyddfa'r Post gyda'r bwriad o gau tua 2,500 o swyddfeydd - un rhan o bump o'r rhai sydd yn dal ar agor - erbyn 2009.