Bu farw Ray Gravell ddiwedd Hydref 2007
|
Fe fydd yna deyrnged arbennig i gofio'r chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravell yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar Gaeau Pontcanna mae Caryl Parry Jones, Tara Bethan, Celt , Y Tebot Piws, Bryn Fôn, Meinir Gwilym, Elin Fflur a Gwyneth Glyn.
Roedd Ray yn un o selogion yr Eisteddfod, yn Geidwad y Cledd yn seremonïau Gorsedd y Beirdd.
Mae'r trefnwyr wedi gofyn i'r rhai sy'n mynd i'r gyngerdd wisgo dillad coch.
Roedd Ray yn 56 oed pan fu farw ym mis Hydref 2007.
Fe fydd y gyngerdd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar Awst 5 am 8pm.
Dywedodd y prif weithredwr, Elfed Roberts, eu bod wrth eu boddau'n cydweithio â'r teulu er mwyn dathlu bywyd Ray.
"Bydd y noson yn cynnwys rhai o hoff artisitiad Ray a bydd cyfle i'w ffrindiau ddod i adrodd hanesion amdano.
"Rydan ni hefyd yn disgwyl i ffrindiau Ray o'i gyfnod gyda Llanelli a Chymru gyfrannu ...
"Felly roeddan ni'n teimlo y byddai'n addas i ofyn i'r gynulleidfa wisgo coch."