Mae Jan Morris wedi ysgrifennu dros ddeg ar hugain o lyfrau
|
Mae'r awdures Jan Morris wedi 'ail briodi' y fenyw a briododd bron 60 mlynedd nôl.
Fe'i ganwyd yn fachgen ac fel James Morris y treuliodd 46 mlynedd cyntaf ei bywyd a chafodd ef ac Elizabeth ysgariad cyn iddo ef gael llawdriniaeth i newid ei rywioldeb yn Casablanca yn 1972.
Er gwaetha'r ysgariad, parhaodd y ddau i fyw gyda'i gilydd yn Llanystumdwy, Gwynedd ac maen nhw nawr wedi cael partneriaeth sifil.
Dywedodd wrth y BBC: "Dwi wedi byw gyda'r un person am 58 mlynedd.
"Fe wnaethon ni briodi yn ifanc...ac yna ges i lawdriniaeth i newid fy rhywioldeb, ac felly yn naturiol roedd rhaid i ni ysgaru - ond ry ni wedi parhau i fyw gyda'n gilydd.
"Felly er mwyn gorffen pethau yn drefnus fe wnaeth Elizabeth a minnau gael partneriaeth sifil yr wythnos ddiwethaf."
'Toreithiog'
Mae Jan Morris wedi ysgrifennu dros ddeg ar hugain o lyfrau am deithiau yn Venice, Rhydychen, Trieste, Efrog Newydd a thu hwnt.
Dechreuodd James Morris deithio tra'n gwasanaethu yn y Fyddin yn 17 oed. Yn 23 aeth i astudio Saesneg yn Rhydychen cyn gweithio fel gohebydd tramor i bapurau fel The Times ac yn ddiweddarach The Guardian yn y Dwyrain Canol.
Daeth yn enwog ar ôl iddo sgwennu am y daith lwyddiannus i goncro mynydd Everest yn 1953 gan Syr Edmund Hilary a Sherpa Tenzing Norgay.
Priododd James ei wraig Elizabeth yn 1949 ac mae ganddyn nhw dri mab ac un ferch: Twm Morys, awdur, bardd a cherddor sy'n wyneb cyfarwydd iawn yn y Gymru Gymraeg; Henry Morris, cerddor sy'n byw yn Sbaen; Mark Morris, awdur, darlledwr a libretydd sy'n byw yng Nghanada a Suki Morys, sy'n byw yng Nghymru gyda'i theulu.
Mae hi bellach yn aelod o'r Orsedd ac yn ymddiddori'n fawr yn y pethe.