Fe ddylai'r cyfleusterau hyfforddi newydd fod yn barod mewn tair blynedd
|
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi buddsoddiad o filiynau o bunnau yng Nghanolfan Awyrlu'r Fali ar Ynys Môn.
Rhan yw hon o raglen 25 mlynedd gwerth £635m drwy wledydd Prydain sy'n golygu mai yn y Fali y bydd peilotiaid awyrennau jet y Lluoedd Arfog yn cael eu hyfforddi.
Fe fydd swyddi newydd yn cael eu creu wrth godi'r cyfleusterau newydd ac wedyn yn y ganolfan hyfforddi.
Dylai'r cyfleusterau hyfforddi fod yn barod mewn tair blynedd, gan gynnwys siediau awyrennau, ystafelloedd dosbarth a chyfarpar ffughedfan.
'Gwelliant sylweddol'
Dywedodd y Gweinidog â Chyfrifoldeb am Offer Amddiffyn, y Farwnes Taylor: "Mae'r cytundeb â chwmni Ascent yn cyfuno sgiliau'r Weinyddiaeth Amddiffyn â'r diwydiant er mwyn darparu cyfleusterau hyfforddi hedfan o'r radd flaenaf.
"Bydd hyn yn golygu gwelliant sylweddol yn yr hyfforddiant ar gyfer y Lluoedd Arfog drwy gyfuno y rhaglenni unigol presennol mewn rhaglen fodern ac unedig."
'Rhan o'r gymuned'
Yn ôl y cynghorydd lleol Gwilym O Jones: "Mae Awyrlu'r Fali wedi bod yn rhan o'r gymuned yma am dros 60 mlynedd erbyn hyn.
"Mae pobl leol wedi cael eu cyflogi i wneud gwaith hanfodol ar yr awyrennau ac mi fyddwn ni'n gobeithio y bydd mwy o hynny oherwydd y cyhoeddiad hwn."