Roedd cyfle i bobl arwyddo mur i ddangos eu cefnogaeth i ddeddf iaith
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio dogfen yn amlinellu eu gweledigaeth o'r her sy'n wynebu Llywodraeth y Cynulliad o ran sefyllfa'r Gymraeg.
Cafodd y ddogfen 'O ddifrif am y Gymraeg: yr her i'r Llywodraeth', ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Roedd cyfle i bobl arwyddo mur i ddangos eu cefnogaeth i ddeddf iaith gyflawn.
Mae'r ddogfen yn cynnig sylwadau ar addysg, dyfodol cymunedau Cymreig, y cyfryngau a deddf iaith newydd.
'O ddifrif'
Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Diben y ddogfen hon yw gosod yr her gerbron Llywodraeth y Cynulliad mewn modd hollol ddiamwys, sef yr her i ddangos eu bod o ddifrif dros ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Ifor ap Glyn, bardd plant newydd Cymru yn arwyddo'r mur
|
"Bellach gorchuddiwyd y mur gan lofnodion pobl sydd yn cefnogi ein galwad ni ar i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth effeithiol ym maes y Gymraeg, gan gynnwys statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, Comisiynydd dros yr Iaith Gymraeg, a hawliau i bobl Cymru weld, clywed a defnyddio'r iaith wrth ymwneud â phob agwedd ar fywyd.
"Y cam cyntaf yn hyn beth yw i gyflwyno Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol mor eang â phosib."
'Hirach na disgwyliwyd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Mae gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i greu Cymru ddwyieithog, lle gall pobl ddewis defynddio'r Gymraeg neu Saesneg.
"Rydyn ni'n gwneud hyn drwy broses o drosgwlyddo'r hawl i ddeddfu ym maes yr iaith Gymraeg o San Steffan i Gymru, ond hefyd drwy gynyddu ein cefnogaeth i addysg gyfrwng Cymraeg, a chefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
"Mae cyflawni'r tair ymrwymiad yng Nghymru'n Un - cynyddu hawliau i siaradwyr Cymraeg, sefydlu Comisiynydd a statws gyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg - wedi golygu fod angen ystyriaeth fanwl gan swyddogion polisi oherwydd fod angen trafod gyda sawl adran bolisi yn Whitehall.
"Mae hyn wedi arwain at broses hirach na disgwyliwyd yn wreiddiol, ond mae'n bwysig cael hyn yn iawn".