Graddiodd y llynedd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg
|
Dewi Huw Owen, Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, yw prif lenor Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy.
Dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am Goron Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Huw Owen fod tref Aberystwyth ymhlith y dylanwadau arno fel ysgrifennwr: "Mae cant a mil o ddylanwadau arnaf i - rwy'n darllen cymaint alla i - ond rwy'n credu mai'r prif ddylanwad yw Aberystwyth ei hun. Y dref a'r bobl sydd yno.
"Os ydych chi'n byw yno ddigon hir mae'n mynd dan eich croen chi a chwithau'n mynd dan ei groen e felly dygymod â'r lle yna a cheisio deall y lle yna, dyna'r prif ddylanwad," meddai.
'Dawn arbennig'
Eigra Lewis Roberts a Cefin Roberts oedd yn beirniadu, ac maent yn dweud am waith Huw:
"Does dim dwywaith nad oes gan hwn ddawn arbennig. Mae'n ddigri, yn goeglyd, ac yn arbrofol."
Ceri Elen, Aelwyd CF1, Caerdydd, ddaeth yn ail a Sioned Elin Hughes, Aelod Unigol o Landrindod sy'n cael y drydedd wobr.
Ganed Huw yn Aberystwyth a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig, ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd y llynedd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg.
Dychwelodd yno ym mis Hydref 2007 i ddilyn cwrs ymchwil uwchraddedig, ac i lunio traethawd MPhil ar nofel gyntaf Winnie Parry, sef "Sioned".
Mae gan Huw gysylltiadau teuluol cryf â phentref Caerfarchell, ar benrhyn Dewi, ac yno y mae ei rieni'n byw bellach.
Mae Huw'n gweithio fel aelod o dîm Mercator, sy'n monitro rhaglenni S4C, fel rhan o'r ysgoloriaethau sy'n ei gynnal yn ystod ei fyfyrdodau.
Mae'n aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol CYD, a bu'n dysgu seminarau Cymraeg ail iaith yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pan na fydd yn gweithio, bydd Huw'n mwynhau chwarae pŵl, treulio amser hamdden yng nghaffis Aberystwyth, darllen a thrio chwarae golff!
Rhoddir replica'r goron eleni gan Ceir Cymru a Brodwaith Cyf., a noddwyd y seremoni gan HSBC.