Bydd y daith gyfnewid yn cynnwys ymweld ag ysgolion
|
Am y tro cyntaf erioed mae'r Urdd yn trefnu taith gyfnewid i Batagonia.
Bydd y daith yn rhoi cyfle i 21 o bobl ifanc fynd i'r Wladfa ym mis Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd eu bod yn gobeithio bydd y daith yn "arwain at berthynas agosach rhwng pobl ifanc y ddau gyfandir."
Daw'r cyfle yn sgil penodiad dau swyddog Menter Iaith ym Mhatagonia.
Dywed yr Urdd fod gan y ddau swyddog, James Williams a Dyfed Sion, berthynas agos gyda'r mudiad.
Bydd y rhai sy'n mynd ar y daith gyfnewid yn ymweld â Gaiman a Threlew.
"Tra yno, bydd cyfle iddynt ymweld ag ysgolion a chymunedau," meddai'r llefarydd.
Pobl ifanc sy'n mynychu Ysgolion Uwchradd Preseli, Maes yr Yrfa, Gwyr, Rhydywaun, Rhydfelen, Cwm Rhymni a Phlasmawr sydd wedi cael y cyfle.
Teithiau tebyg
Fe fydd y bobl ifanc yn gyfrifol am godi arian ar gyfer y daith.
Dywedodd Hywel Roberts, un o swyddogion yr Urdd fydd ar y daith, fod y syniad yn gyfle gwych i bobl ifanc.
"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y bobl ifanc yn cael profiadau fydd yn aros gyda nhw am byth.
" Wrth i'r byd leihau gyda chymorth dulliau electronig o gyfathrebu, fe fydd y bobl ifanc yn gallu creu eu cysylltiadau eu hunain gyda phobl ifanc Patagonia."
Yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, mae'r mudiad yn gobeithio trefnu teithiau tebyg yn y dyfodol.
" Rwy'n mawr obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau i'r dyfodol, ac y byddwn yn gallu adeiladu ar brofiad y criw cyntaf a fydd yn mynd yno.