Mae Iwan yn gweithio fel cyfieithydd i gwmni Prysg
|
Iwan Rhys o Borthyrhyd ger Caerfyrddin yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd yn Sir Conwy.
Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd oedd y beirniaid a'r dasg oedd ysgrifennu cerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun Colli.
Dywedodd y beirniaid fod y gerdd fuddugol yn "awdl aeddfed, awdl ddofn, lân a grymus - awdl deilwng iawn o Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008."
Hon oedd y flwyddyn olaf y gallai Iwan gystadlu yn yr Urdd ac roedd yn awyddus, meddai, i ennill er mwyn profi gwefr gerbron cynulleidfa yn y pafiliwn.
"Ro'n i'n teimlo dan dipyn o bwysau oherwydd hynny," meddai.
Dan amgylchiadau trist y cyfansoddodd ei gerdd ar y testun Colli.
'Profiad trist'
"Ro'n i wedi ca'l y profiad trist ac anodd o golli hen ewythr 88 oed a ffrind ifanc agos o fewn ychydig o wythnosau i'w gilydd ...
"Ac ro'n i'n trio dod i ddeall beth oedd tu ôl i hyn.
"Ro'dd yn beth anodd i'w ddeall ac efallai i'r sgrifennu fod yn ffordd o ddelio â'r peth."
Osian Rhys Jones o Aberystwyth oedd yn ail a Dewi Huw Owen a Gruffudd Eifion Owen, y ddau o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, yn rhannu'r drydedd wobr.
Fe gafodd Iwan ei fagu ym Mhorth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin.
Aeth i ysgolion Llanddarog a Maes-yr-yrfa cyn graddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2005 ac astudio ar gyfer MPhil yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth.
Mae'n byw ym Manceinion ac yn gweithio fel cyfieithydd i gwmni Prysg yng Nghaerdydd.
2001
Enillodd Gadair yr Urdd yn 2001.
Fe gyfrannodd at y gyfrol o gerddi, Crap ar Farddoni, yn 2006, gyda phedwar bardd arall, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog a Catrin Dafydd.
Mae'n aelod o dîm Y Glêr ar Dalwrn y Beirdd a thîm Y Deheubarth yn yr ymryson.
Ym mis Ionawr gofynnodd i'w gariad Angharad Hewitson o Gaergybi ei briodi - ar y radio.
Mae'n debyg fod "ei galon yn mynd ar ras" ar raglen C2 Dafydd Du ond yn falch pan gytunodd Angharad.
Fe fydd y ddau'n symud i Gaerdydd yn yr haf ac yn priodi yng Nghaergybi ym mis Hydref.
Dywedodd ei fod yn "ddiolchgar iawn i'm rieni ac Angharad am eu cefnogaeth ac i'r cyd-aelodau ar Dîm y Glêr am gadw'r byd barddonol yn llawn o hwyl".
Undeb Amaethwyr Cymru roddodd y Gadair a Choleg Llandrillo Cymru noddodd y seremoni.