BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Mai 2008, 06:39 GMT 07:39 UK
Arian y wasg: Disgwyl cyhoeddiad
Papurau newydd
Mae pum cwmni wedi gwneud cais am yr arian

Mae disgwyl cyhoeddiad am yr arian ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu'r wasg Gymraeg.

Pum cwmni sydd wedi gwneud cais am yr arian.

Bu cyfweliadau ddydd Mawrth a dydd Mercher a'r gred yw bod penderfyniad wedi ei wneud.

Roedd rhaid i'r cwmnau wneud cais i'r Cyngor Llyfrau ar gyfer cyfanswm o 600,000 erbyn diwedd mis Ebrill.

Fe glustnododd Gweinidog Treftadaeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, 200,000 y flwyddyn am dair blynedd - ar l comisiynu arolwg o'r wasg Gymraeg.

Ymhlith yr ymgeiswyr mae'r cwmni sy'n berchen ar y cylchgrawn Golwg yn Llambed.

Mae Cwmni Dyddiol Cyf oedd, yn wreiddiol, am sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg, Y Byd, hefyd wedi gwneud cais.

Cyn newyddiadurwyr

Fe gyflwynodd grŵp Trinity Mirror ddau gais, un yn enw'r Western Mail a'r llall yn enw'r Daily Post.

Ac mae Y Cwmni Newyddion, sy'n cynnwys rhai o gyn-newyddiadurwyr y BBC, yn ymgeisio.

Dywedodd Tinopolis, sy'n cynhyrchu rhaglenni Wedi Saith a Wedi Tri, eu bod nhw yn rhan o grŵp sy'n gwneud cais am yr arian.

Arolwg

Ddechrau mis Chwefror cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth y byddai arian ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg - ond y byddai'n rhaid i gwmnau gynnig amdano.

Wedyn dywedodd Cwmni Dyddiol Cyf, sydd wedi ei leoli ym Machynlleth, na fyddai'r arian sy'n cael ei gynnig yn ddigon i sefydlu papur newydd dyddiol Y Byd.

Cyhoeddodd y cwmni na fydden nhw'n bwrw mlaen 'r cynllun gwreiddiol.

Ar y pryd dywedodd cadeirydd Cwmni Dyddiol, Ned Thomas, y bydden nhw'n ystyried nifer o "gynlluniau positif a allai wneud cyfraniad pwysig i hybu'r wasg Gymraeg."



HEFYD
Cadw Golwg ar y we
08 Chwef 08 |  Newyddion
600,000 ar gyfer papurau
05 Chwef 08 |  Newyddion
Gollwng cynllun papur dyddiol
15 Chwef 08 |  Newyddion
Papur: 'Penderfynwch yn fuan'
13 Ion 08 |  Newyddion
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg
29 Medi 04 |  Newyddion
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn'
22 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^