BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Mai 2008, 17:49 GMT 18:49 UK
Iaith:'Cyfiawnder o'r diwedd'
Cyfraith a threfn (llun cyffredinol)
Mae'r ymgyrch wedi astudiaeth tîm o arbenigwyr iaith

Mae ymgyrch wedi ei lansio i wella gwasanaethau iaith Gymraeg ar gyfer diffynyddion, dioddefwyr a thystion mewn achosion llys.

Lansiwyd yr ymgyrch, sydd dan ofal Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru, ddydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llandudno.

Bu astudiaeth gan arbenigwyr iaith ac a gomisiynwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol.

'Anghyson'

Sylwodd yr ymgynghorwyr o Gwmni Iaith fod y cyfle i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn y system cyfiawnder troseddol yn "anghyson".

Dywedodd Hywel Hughes, cadeirydd is-bwyllgor iaith Gymraeg y bwrdd, fod gogledd Cymru wedi "arloesi" oherwydd dwyieithrwydd yn y system cyfiawnder troseddol.

Cyfeiriodd yn benodol at "gamau breision" Heddlu Gogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Roedden ni'n teimlo ei bod yn bryd i ni edrych ar sut i gynnig dewis iaith drwy'r system gyfan - o'r adeg y caiff rhywun ei arestio, ac edrych ar bopeth o safbwynt y diffynnydd, y dioddefwr a'r tyst.

"Yn yr archwiliad mae'r ymgynghorwyr wedi edrych ar nifer o wahanol gyrff ac unigolion sy'n ymwneud â'r system.

"Mae wedi rhoi sail i ni o ran symud ymlaen ac mae'n amlwg o'r adroddiad fod yna lawer o waith sydd angen ei wneud o hyd."

Yr her fydd llunio cynllun gweithredu i gyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol mor gyflym â phosib.

Yn ôl yr adroddiad, byddai mwy o bobl yn defnyddio'r iaith Gymraeg os oedden nhw'n gwybod bod ganddynt yr hawl i wneud hynny.

Roedd eraill yn teimlo y byddai dewis defnyddio'r iaith Gymraeg yn arwain at oedi o ran achosion.

'Gweledigaeth'

Ychwanegodd Mr Hughes: "Gan ein bod ni yn y sector sy'n delio â chyfiawnder, y peth pwysicaf yw bod pobl yn derbyn cyfiawnder yn yr iaith y maen nhw'n ei dewis.

"Ein gweledigaeth ni yw sicrhau nad oes unrhyw un sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol yn meddwl am yr iaith Gymraeg fel rhywbeth ychwanegol, a'i bod yn rhan annatod o bopeth yr ydyn ni'n ei wneud.

"Rhaid i ni wneud cyfiawnder â'r iaith Gymraeg fel y gallwn ni wneud cyfiawnder â'r bobl sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.

"Dyma hawl ddynol sylfaenol pan allai eich rhyddid chi fod yn y fantol."



HEFYD
Yr iaith oedd 'fel Groeg a Lladin'
13 Chwef 08 |  Newyddion
Mwy o hawliau i'r Gymraeg?
05 Chwef 08 |  Newyddion
Iaith: 'Dim digon o ddefnyddwyr'
05 Chwef 08 |  Newyddion
Llysoedd: Trefn iaith ar waith
11 Ion 08 |  Newyddion
Gwefan: Trafod deddf iaith
07 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^