Huw Alun Foulkes a'i fedal
|
Huw Alun Foulkes sydd wedi ennill Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Conwy.
Mae'n 20 oed ac yn aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd.
Cyfeiriodd y beirniaid Lowri Hughes a Dafydd Llewelyn at "gymeriadau gorffenedig a chyflawn" drama Huw.
"O'r darlleniad cyntaf apeliodd Enaid Hoff Cytûn yn fawr.
"Ei chryfder yw ei symlder, ac mae'r cyffyrddiadau ysgafn a'r ddeialog yn llifo'n esmwyth ... fel cyfanwaith mae'n effeithiol, difyr a chyflawn."
Hwn oedd y tro cyntaf erioed iddo gystadlu am y Fedal Ddrama.
'Cefnogaeth'
"Mae ennill ... yn golygu cymaint i mi ar y cynnig cynta.
Hoffwn i ddiolch o waelod calon i holl diwtoriaid a darlithwyr Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am eu hanogaeth," meddai.
"Ond, yn bennaf oll, mae fy nyled i'm teulu a'm ffrindiau - yn enwedig Mam a Dad, Nain a Taid, a'm brawd, Dewi, am eu cefnogaeth gyson."
Elis Meredydd Gomer, hefyd o Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, ac mae Gareth Owen o Lundain a Nia Haf o Sir Gonwy yn rhannu'r drydedd wobr.
Fe gafodd Huw ei eni ym Methel, Caernarfon, a chael ei addysg yn Ysgol Gynradd Bethel ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug.
Erbyn hyn, mae'n byw yn y brifddinas ac yng nghanol arholiadau blwyddyn olaf cwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Y flwyddyn nesaf bydd yn dilyn cwrs MA yn y Gymraeg a chanolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio.
"Mae ennill heddiw yn hwb o ran y sgwennu.
"Newyddiaduraeth deledu yw'r nod yn y pen draw."
Mae Huw wedi hen arfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Fe oedd cyfeilydd Aelwyd yr Ynys a bellach fe yw Cyfarwyddwr Cerdd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal fydd yn cystadlu ddydd Sadwrn.
Rhoddwyd y fedal ddrama gan Gwmni Drama Gwreiddiau Gwrych.