Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion tref Llandudno
|
Bydd coeden bambŵ yn cyrraedd Cynhadledd G8 nesaf yn Japan ag arni negeseuon gafodd eu casglu ar Faes yr Urdd yn galw am ddiogelu'r amgylchedd.
Mae hon yn rhan o ymgyrch "byd gwyrdd" yr Urdd ac OXFAM Cymru.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, fod pobl Japan yn arfer rhoi negeseuon ar goed bambŵ .
"Y bwriad ... rhoi pwysau ar arweinyddion y byd i weithredu ar newid hinsawdd ynghyd â chymorth a iechyd," meddai.
Roedd y goeden ar y Maes ddydd Mercher wrth lansio ymgyrch Urdd Gwyrdd.