Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Llandudno
|
Mae rhai o gymeriadau cartŵn oedd yn diddanu plant yn ystod pedwardegau'r ganrif ddiwetha mewn arddangosfa yn Llandudno.
Casgliad o waith yr arlunydd Robin Griffith sydd yn Amgueddfa Llandudno rhwng Mai 23 a Mehefin 8.
Mae'r gwaith yn cynnwys ei gyfraniad i gylchgronau'r Urdd fel Cymru'r Plant a phapur newydd Y Cymro rhwng pedwardegau ac wythdegau'r ganrif ddiwetha.
Roedd ei waith "yn gwbl Gymreig ei naws" ac nid oedd yr athro ysgol wedi cael ei hyfforddi fel artist.
Ei gymeriad cyntaf oedd Atom Jones oedd yn y papur newydd Y Cymro ddiwedd y pedwardegau.
Ifor Bowen Griffith, un o golofnwyr rheolaidd y papur, oedd yn sgrifennu'r stori.
Ymhlith ei gymeriadau eraill yr oedd Ananias Jones yr anturiwr ac Owi'r Oen, cymeriadau oedd yn apelio at bob oed.
Trefnwyd yr arddangosfa gyda'i fab, Gareth Griffith, sy'n byw yn Nyffryn Ogwen.
Bu farw Robin Griffith yn 1983.