BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 27 Mai 2008, 08:27 GMT 09:27 UK
Urdd am drafod gyda'r cynghorau
Maes Eisteddfod Yr Urdd Bae Caerdydd 2005
Aeth Eisteddfod yr Urdd i Fae Caerdydd ddiwethaf yn 2005
Mae cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd Aled Sion wedi galw am i gynghorau Cymru ystyried dull newydd o roi arian i'r mudiad.

Ar hyn o bryd mae'r Urdd yn dibynnu ar grantiau oddi wrth y cyngor sir sy'n cynnal yr Eisteddfod .

Daw sylwadau Mr Sion ar ôl i gyngor Caerdydd ddweud na fydda nhw'n rhoi grant pan fydd yr wyl yn ymweld â'r brifddinas yn 2009.

Eleni bydd yr Urdd yn derbyn £300,000 gan gyngor Conwy wrth i'r Eisteddfod gael ei chynnal ar gyrion Llandudno.

Dywed Mr Sion fod angen dull newydd o ariannu oherwydd y pwysau sy'n wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae o wedi gofyn am gael cyfarfod gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad er mwyn trafod y sefyllfa.

Mae'r Gymdeithas eisoes wedi sefydlu trefn newydd o ariannu'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Chris Llewelyn o'r Gymdeithas y byddan nhw'n trafod y mater.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd mae'r cyngor wedi rhoi cefnogaeth ariannol i'r Urdd dwywaith o fewn y pum mlynedd diwethaf.

"Eleni mae'r Cyngor yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol ac er y byddwn yn dymuno cefnogir' Urdd y flwyddyn nesa dyw'r gyllideb ddim yn ddiderfyn, " meddai llefarydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^