Arwel Rhys Williams enillodd Tlws y Prif Gyfansoddwr
|
Arwel Rhys Williams, 21 oed, o Lanelli sydd wedi cipio Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd.
Yn ôl y beirniaid l Robat Arwyn ac Owain Llwyd, ymgais Arwel oedd "cyfansoddiad mwyaf gorffenedig a chaboledig y gystadleuaeth. "
Ieuan Wyn o Ynys Môn ddaeth yn ail a Nia Mair Llewelyn Jones o Goleg Meirion Dwyfor, yn drydydd.
Yn gyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, y cafodd un o'i gyfansoddiadau eu perfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Bu yn gyfeilydd Côr Meibion Dinefwr, Llandeilo am ddwy flynedd.
100,000
Ar hyn o bryd mae'n astudio cwrs Meistri mew Cyfansoddi ym Mhrifysgol Kingston, Llundain.
Dydd Llun oedd diwrnod cyntaf yr Wyl syn cael ei chynnal ar safle fferm Gloddaeth Isaf yng Nglanwydden ger Llandudno.
Mae disgwyl 100,000 o bobl i ymweld â'r Eisteddfod.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Glyn Jones said: "Mae'n bleser croesawu'r Eisteddfod yr Urdd i Gonwy.
"Rydan ni'n gobeithio y bydd pawb sy'n dod i'r Eisteddfod yn mwynhau a dwi'n dymuno pob lwc i'r cystadleuwyr."
Roedd yr Eisteddfod yng Nghonwy yn 2000 - ar yr un safle.