BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 27 Mai 2008, 07:14 GMT 08:14 UK
S4C: Manylion am raglenni plant
'Cyw' a'i ffrindiau
Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym Mehefin

Bydd S4C yn datgelu manylion llawn am eu gwasanaeth newydd i blant iau ar Faes Eisteddfor yr Urdd, ddydd Mawrth.

Mae'r gwasanaeth yn dechrau darlledu ar Fehefin 23 ar S4C Digidol ac yn darparhu chwe awr a hanner o ragelnni o ddydd Llun i ddydd Gwener o 7am ymlaen.

Gwasanaeth Cyw yw'r enw sydd wedi ei fachu ar gyfer yr arlwy.

'Cyw' yw'r cam cyntaf yn strategaeth S4C i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg ar wahn ar gyfer plant a phobl ifanc.

I gyd-fynd a'r gwasanaeth bydd gwefan ddwyieithog.

Yn l llefarydd ar ran S4C bydd y wefan yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni.

"Bydd llawer o'r rhaglenni ar gael i'w gwylio ar-lein a darperir is-deitlau Saesneg ar y rhan fwyaf o'r sioeau," meddai'r llefarydd.

Ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd cyfle i bobl ifanc gwrdd Cyw, cymeriad animeiddiedig, fydd yn croesawu plant bach Cymru i'r gwasanaeth newydd.

A bydd manylion llawn am wasanaeth Cyw yn cael eu rhyddhau mewn lansiad ar y Maes.

Rl flaenllaw

"Lansio Cyw yw un o'r datblygiadau pwysicaf erioed yn hanes S4C ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i blant Cymru a'u teuluoedd," meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.

"Rwy'n hyderus y bydd y cynnydd sylweddol hwn yn yr arlwy yn atgyfnerthu'r enw da sydd gan S4C a'r cynhyrchwyr annibynnol ym maes rhaglenni plant - yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol."

Bydd Cyw, gyda chymorth ei ffrindiau, Bolgi'r ci, Jangl y jirff, Llew, Plwmp yr eliffant a Deryn yn cyflwyno'r rhaglenni ar y gwasanaeth newydd.

Bydd y cyflwynwyr plant, Rachael Solomon a Gareth Delve, hefyd yn chwarae rl flaenllaw.

Ymhlith y rhaglenni fydd yn ymddangos ar y gwasanaeth newydd mae cyfres Sali Mali a'i chyfeillion, Pentre Bach, y sioe ddawns a chn Triongl, y cyfresi animeiddiedig Holi Hana, Sali Mali a Sam Tn, a'r gyfres ffitrwydd newydd, Heini.



HEFYD
Sianel i blant: Holi am farn
14 Mai 07 |  Newyddion
S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf
03 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^