Mae Mr Edwards yn ofni na fydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i Gaerdydd
|
Mewn cyfweliad arbennig i Radio Cymru mae Llywydd Anrhydeddus yr Urdd wedi beirniadu Cyngor Caerdydd am beidio â rhoi nawdd ariannol i'r brifwyl a fydd yno'r flwyddyn nesa.
Ar raglen Dewi Llwyd fore Sul mae Prys Edwards yn dweud efallai na fydd modd cynnal Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn y dyfodol.
Mae Mr Edwards, sy'n trafod yn gyhoeddus am y tro cyntaf y ffaith ei fod yn diodde o glefyd Parkinson, yn anfodlon am nad yw'r cyngor sir yn rhoi nawdd ar gyfer Prifwyl 2009.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydden nhw'n dymuno cefnogi'r ŵyl ond nad oes ganddyn nhw "gyllideb ddiderfyn".
Dywed Mr Edwards fod ei ffydd yn bwysig iawn iddo ers iddo gael gwybod ei fod yn diodde o'r clefyd, clefyd y mae ei frawd, Owen Edwards - prif weithredwr cyntaf S4C - yn diodde ohono.
Ac mae Mr Edwards yn y cyfweliad yn dweud bod ei angerdd at yr Urdd yn dal yn glir er gwaetha'r anawsterau â'r driniaeth y mae'n ei derbyn ar gyfer y clefyd.
'Dim ceiniog'
Mewn egwyddor mae gan yr Urdd drefniant gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd i gynnal yr Eisteddfod yno bob pedair blynedd - pe bai angen.
Aeth yr ŵyl i Fae Caerdydd ddiwethaf yn 2005.
"Ar hyn o bryd does ganddon ni ddim ceiniog o nawdd i'r Eisteddfod," medd Mr Edwards.
"Dydi dinas Caerdydd ddim wedi rhoi ceiniog tuag at brif ŵyl ieuenctid Ewrop sy'n digwydd yno.
Aeth Eisteddfod yr Urdd i Fae Caerdydd ddiwethaf yn 2005
|
"Dwi'n gwybod yn iawn eu bod yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Y gwir amdani ydi ein bod ni'n wynebu penderfyniad ... falle na fyddwn ni byth eto, o ran Eisteddfod yr Urdd, yn mynd i brifddinas Cymru.
"Dwi'n siwr y gall rhywun yn rhywle ein cefnogi ni o ran y £300,000 er mwyn gweld prif fudiad ieuenctid Cymru yn dod i brifddinas Cymru."
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn "falch o fod wedi cefnogi Eisteddfod yr Urdd" pan aeth y Brifwyl i'r ddinas ddwywaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
"Ac mae hyn wedi cynnwys cefnogaeth ariannol a chefnogaeth ymarferol," medd llefarydd ar ran y cyngor.
"Eleni mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal ar Gaeau Pontcanna rhwng Awst 2 a'r 9.
"Tra bod y cyngor yn dymuno cefnogi'r Urdd y flwyddyn nesaf, dydi ein cyllideb ni ddim yn ddiderfyn.
"Mae'n bwysig cofio bod dyletswydd ar Gyngor Caerdydd i ymestyn cyfleoedd ac i hybu'r ddinas yn fyd-eang gan ddod â digwyddiadau newydd i brifddinas Cymru."
Gallwch glywed cyfweliad llawn Prys Edwards ar raglen Dewi Llwyd fore Sul, ddydd Sul, Mai 25 ar BBC Radio Cymru am 8.30am.