BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Mai 2008, 06:22 GMT 07:22 UK
42 draeth yn derbyn y Faner Las
Traeth Aberafan
Mae traeth Aberafan wedi derbyn y faner am y tro cyntaf

Llwyddodd 42 o draethau Cymru a pum marina i basio'r meini prawf am ansawdd dŵr ymdrochi a rheoli'r traeth.

Maen nhw wedi derbyn statws Baner Las Ewrop am lendid.

Mae traeth Aberafan wedi derbyn y faner am y tro cyntaf ar l bron i 4m o fuddsoddiad dros y 10 mlynedd diwethaf.

Traethau eraill sy'n derbyn y statws am y tro cyntaf l yw Porth Swtan, Ynys Mn a Trefdraeth, Sir Benfro.

Mae pedwar o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion wedi derbyn Gwobr y Faner Las, sef traethau'r Borth, Traethau'r Gogledd a'r De yn Aberystwyth a Thraeth yr Harbwr Cei Newydd.

'Bendigedig'

Caiff y Faner Las ei rhoi mewn 32 o wledydd ar draws y byd.

Cadw Cymru'n Daclus sy'n rheoli'r cynllun yng Nghymru ar ran Sefydliad Rhyngwladol Addysg Amgylcheddol.

Mae traethau'n cael eu barnu'n l 29 o feini prawf gwahanol gan gynnwys safon y dŵr ymdrochi, rheoli sbwriel a rheoli'r amgylchedd yn gynaliadwy.

Mae'n rhaid i farinas gwrdd 16 o feini prawf yn ymwneud 'r tir gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer gwastraff peryglus ac ymrwymiad i ddiogelu eu hamgylchedd lleol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^