Dysgu drwy chwarae fydd y plant o dan y cynllun newydd
|
Mae'n bosib y bydd cynllun addysg arloesol, sy'n golygu dysgu drwy chwarae, dargedu plant ifanc iawn.
Yn y Senedd ddydd Iau awgrymodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, y gallai'r cynllun Cyfnod Sylfaen gael ei anelu at blant iau yn gyntaf.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad na fyddai "unrhyw newid i sut y byddai'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei gyflwyno.
"Rydyn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol oddi wrth awdurdodau lleol erbyn diwedd mis Mai."
Dywedodd y byddai pwyllgor llywio ym mis Mehefin yn ystyried sut y byddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno.
Mae llawer o brifathrawon wedi honni nad oes digon o arian ar gyfer y prosiect.
Chwarae
Nod Cyfnod Sylfaen, fyddai'n golygu mwy o athrawon, yw dysgu plant rhwng tair a saith oed wrth chwarae.
Yn y cyfamser, mae Pwyllgor Cyllid y cynulliad yn ymchwilio i'r arian sydd wedi ei neilltuo i'r cynllun.
Fe fydd tystiolaeth oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Cymdeithas Brydeinig y Prifathrawon ac undeb athrawon yr NUT.
Mae prifathrawon wedi dadlau fod angen i Lywodraeth y Cynulliad roi mwy o arian.
£5m
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ms Hutt y byddai'r cynllun yn derbyn £5 miliwn yn ychwanegol. Yn wreiddiol, cafodd £107 miliwn ei neilltuo
Mae cynlluniau peilot wedi bod mewn rhai ysgolion ond fe fydd cynllun cenedlaethol yn cael ei gyflwyno ddechrau mis Medi.