BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Mai 2008, 15:42 GMT 16:42 UK
Ffatri i gau gan golli 150 swydd
Flexsys
Mae cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod wedi dechrau.

Bydd ffatri gemegol Flexsys yn Wrecsam yn cau, gyda thua 150 o weithwyr yn colli eu gwaith.

Mae perchnogion cwmni Flexsys yn dweud mai mewnforion rhad o'r Dwyrain Pell sydd ar fai am eu trafferthion ac y bydd yn rhaid cau'r ffatri yng Nghefn Mawr dros y tair blynedd nesaf.

Mae cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod wedi dechrau.

Dywedodd rheolwr y safle Simon Howarth: "Mae mwy o gystadleuaeth o wneuthurwyr cost-isel o'r Dwyrain Pell wedi arwain at y penderfyniad hwn.

"Tra bod ein gweithlu wedi gweithio'n ddiflino mewn blynyddoedd diweddar i sicrhau safle effeithiol a diogel yma, mae Flexsys wedi cael ei orfodi i gymryd y penderfyniad anodd hwn i ddiogelu'r busnes ehangach."

Dywed yr undebau eu bod wedi cael sioc o glywed y newyddion.



HEFYD
Cytundeb 300m i gwmni awyrofod
02 Mai 08 |  Newyddion
Jac Codi Baw: Colli 30 o swyddi
07 Ebr 08 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^