BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Mai 2008, 11:28 GMT 12:28 UK
Actores Cwmderi yn marw
Iona Banks
Iona Banks fu'n chwarae rhan Gwladys Lake yn Pobol y Cwm
Bu farw'r actores Iona Banks yn 87 oed.

Hi oedd yn actio rhan Gwladys Lake am 20 mlynedd yng nghyfres BBC Cymru, Pobol y Cwm.

Dydd Mawrth fe fu farw yn yr ysbyty.

Yn wreiddiol o Drelogan yn Sir y Fflint, fe ddechreuodd actio yn Theatr Fach y Rhyl.

Wedyn bu'n actio yn addasiad BBC Cymru o nofel T Rowland Hughes, Chwalfa, yn 1966.

Roedd hi'n un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymru.

Bu'n gweithio yn Saesneg, mewn addasiadau llwyfan o waith Willy Russell ac yn y saithdegau roedd yn y gyfres Angels.

Chwe mis ar l cael strc yn 1995 fe fu'n actio yn y gyfres deledu Lleifior gafodd ei seilio ar nofel Islwyn Ffowc Ellis.

Talodd Bethan Jones, Uwchgynhyrchydd Pobol y Cwm, deyrnged iddi.

'Cofiadwy'

"Roedd Gwladys Lake yn gymeriad cofiadwy, yn gymeriad amlwg yn y gyfres am flynyddoedd lawer.

"Ac roedd hi'n gymeriad eiconig tu l i'r bar yn y Deri Arms - yn Gofi Dre yng nghanol Cwmderi.

"Yn ddiweddar, wrth lunio rhaglen arbennig am hanes y Deri Arms, mi gawson ni ein hatgoffa i gyd ba mor fywiog a hoffus oedd y cymeriad, yn tynnu peintiau a thynnu coes Harri Parri, Jacob Ellis a'r lleill ...

"Ac mi gawson ni ein hatgoffa o ddawn arbennig Iona Banks."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^