Mae cyflwr y Vetch wedi dirwyio ers y gêm olaf yno
|
Tair blynedd ers i'r bêl olaf gael ei chicio ar Y Fetch mae pobl leol am i'r datblygiadau ar y safle gael eu gwireddu.
Maen nhw wedi bod yn disgwyl i dai newydd, parc a chanolfan gymunedol gael eu codi ar y tir yng nghanol Abertawe.
Roedd y cae yn lle arbennig i gefnogwyr yr Elyrch, yn gae lle oedd enwogion fel Ivor Allchurch, Leighton James a John Toshack yn dangos eu doniau.
Cafodd y gêm olaf ei chwarae yno ar Fai 11, 2005, ac Abertawe drechodd Wrecsam.
O'r Fetch symudodd tîm yr Elyrch i Stadiwm Liberty, ac ers hynny mae'r Fetch wedi mynd â'i ben iddo.
Gwynt y môr
Mae chwyn yn tyfu yno, dyw'r gwair ddim wedi ei dorri ac mae'n olygfa druenus.
Mae gan Beti a Gwilym Owen atgofion melys o'r maes
|
Ond mae gan un cwpl atgofion melys oherwydd yno y dechreuodd perthynas Beti a Gwilym Owen.
"Fi'n cofio dod ar y bws o Langyfelach, cerdded i lawr drwy Abertawe a sefyll ar y North Bank," meddai Mrs Owen.
"Pan nad oeddwn i'n teimlo'n rhy dda o'dd Mam yn dweud wrtho i am beidio mynd lawr yno.
"Ond ateb Dad oedd bod gwynt y môr ar Y Fetch."
"O'dd hi byth yn bwrw glaw ar Y Fetch," meddai Mr Owen.
Cyngor llawn
Y gobaith ydi y bydd y safle yn cael ei ddatblygu
|
Mae pobl leol wedi bod yn cyfarfod â'r cyngor a mynegi eu barn am ddyfodol y safle.
Fe fydd y cynlluniau gerbron y cyngor llawn o fewn mis ac mae disgwyl i'r cynlluniau dderbyn sêl bendith.
"Mae'n golygu codi 120 o dai, dau, tri a phedwar llawr," meddai'r Cynghorydd Huw Rees.
"Fe fydd 'na neuadd gymuned a pharc i'r plant chwarae."
Does dim sicrwydd y bydd datblygwyr yn achub y cyfle i wneud y gwaith - dim ond amser a ddengys.