BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Mai 2008, 06:42 GMT 07:42 UK
Arian loteri i achub gwenyn
Gwenyn
Mae gwenyn yn wynebu bygythiad gan feirws

Mae cynllun sy'n gobeithio atal poblogaeth gwenyn Cymru rhag cael ei difa'n llwyr wedi derbyn £5,000 o arian loteri.

Nod y cynllun yw magu gwenyn brodorol fydd yn gallu gwrthsefyll firws sy'n cael ei ledaenu gan bryfyn.

Mae rhai yn honni y gallai gwenyn sy'n cynhyrchu mêl farw'n llwyr a hynny drwy'r byd o fewn 10 mlynedd.

Dywed rhai o wenynwyr Cymru eu bod wedi colli 60% o'u stoc o ganlyniad i'r firws.

Methiant fu ymdrech i geisio cryfhau'r stoc brodorol drwy fewnforio gwenyn o Fôr y Canoldir.

Achub y gwenyn

Pan darodd y firws yn 1921 fe gollodd gwenynwyr Cymru y rhan fwyaf o'u cychod gwenyn.

Ond fe lwyddodd rhai o'r gwenyn cynhenid i oroesi.

Cred Cymdeithas y Gwenynwyr y bydd y gwenyn hyn yn llai tebygol o ddiodde effeithiau'r firws.

Mae rhai o'r gwenyn cynhenid i'w cael yn Abercych, ger Boncath.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn hybu cynllun bridio gyda'r gwenyn yma.

Dywedodd Ian Richards o'r Gymdeithas eu bod am geisio achub y gwenyn cynhenid drwy ddechrau cynllun bridio.

"Mae son bod 800,000 o gychod gwenyn wedi cael eu colli yn America'r llynedd.

"Fe allai'r firws yma ddifa poblogaeth gwenyn y byd.

"Byddai'r diwydiant tyfu afalau yn diodde pe bai yna ddim gwenyn, a byddai poblogaeth adra hefyd yn gostwng."



HEFYD
Mwy o law yn golygu llai o fêl
25 Ion 08 |  Newyddion
Annog mwy i gadw gwenyn
03 Mai 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^