Eisteddfod: 'Lleiafrif bach yn rhwystro gwaith da'
|
Mae fandaliaid wedi achosi £10,000 o ddifrod ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
"Fe gafodd 200 metr o baneli ffensio yng Ngerddi Pontcanna eu difrodi ynghynt yr wythnos hon," meddai Steve Edwards ar ran Cyngor Caerdydd.
Roedd y fandaliaeth nos Lun a nos Fawrth.
Mae'r Eisteddfod wedi dweud fod yr hyn ddigwyddodd yn siomedig.
Eisoes mae gweithwyr wedi bod yn paratoi'r safle fydd yn golygu £6.5 miliwn ychwanegol at economi de Cymru.
Fe fydd y Brifwyl rhwng Awst 1 ac Awst 9.
Dywedodd y cyfarwyddwr technegol Alan Gwynant: “Rydan ni'n siomedig iawn bod lleiafrif bach yn rhwystro'r holl waith da.
"Mae'r ymateb i'r Brifwyl yng Nghaerdydd wedi bod yn arbennig a phobl wedi codi mwy na £300,000."
Mae disgwyl y bydd mwy na 160,000 yn mynd i'r Eisteddfod.
O fewn wythnosau fe fydd ffensys yn amgylchynu'r safle y tu ôl i Glwb Criced Morgannwg a Gerddi Sophia.
Pum milltir
Wedyn fe fydd rhaid gosod mwy na phum milltir o geblau trydan a thair milltir o bibellau dŵr.
Fe fydd y pafiliwn pinc a 300 o unedau eraill yn cael eu codi o fewn wythnosau.
Pan fydd yr Eisteddfod yn dod i ben fe fydd Cyngor Caerdydd yn datblygu'r safle, yn creu naw maes criced.
Fe fydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi ac yn dod i ben erbyn gwanwyn 2009.