BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Mai 2008, 15:25 GMT 16:25 UK
Cytundeb i reoli'r brifddinas

Neuadd y Sir, Caerdydd
Y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn rheoli yn y brifddinas.

Clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru fydd yn rheoli Cyngor Caerdydd dros y pedair blynedd nesaf.

Dyma'r cytundeb diweddaraf i gael ei gyhoeddi wrth i'r pleidiau benderfynu pwy fydd yn cydweithio yn dilyn yr etholiadau lleol bythefnos yn ôl.

Yng Nghonwy, fe fydd Plaid Cymru'n arwain clymblaid sy'n cynnwys pob plaid heblaw am y Ceidwadwyr.

Mae'r trafod yn parhau ynglŷn â sefydlu clymbleidiau mewn sawl awdurdod arall.

"Prif Weledigaeth" yw enw'r ddogfen sy'n sail i'r glymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd.

Rhaglen gyffrous

Mae'n rhoi addewid i wahardd defnyddio arian preifat ar gyfer prosiectau cyhoeddus a chyflwyno newidiadau mawr i gynlluniau dadleuol i ad-drefnu ysgolion y brifddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol, fydd yn arwain y cyngor: "Dwi'n credu bod y cytundeb yma'n caniatáu i ni fwrw ymlaen gyda rhaglen gyffrous ar gyfer rheoli'r ddinas dros y pedair blynedd nesa".

Y Cynghorydd Neil McEvoy o Blaid Cymru fydd y Dirprwy Arweinydd.

"Rydyn ni'n hapus iawn", meddai.

"Mae'n ddiwrnod hanesyddol, gyda Phlaid Cymru am y tro cyntaf yn chwarae rhan yn rheoli prifddinas Cymru."

Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Conwy yn cynnwys aelodau o Blaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol.

Yn dilyn yr etholiadau lleol ar Fai 1 dim ond mewn pedwar cyngor oedd gan un blaid fwyafrif clir.

Rhaid i'r cytundebau ar draws awdurdodau lleol Cymru gael eu cymeradwyo'n swyddogol mewn cyfarfodydd cyngor dros yr wythnosau nesaf.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^