BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Mai 2008, 11:51 GMT 12:51 UK
Pennaeth undeb yn ymddiswyddo
Felicity Williams
Bu Felicity Williams yn y swydd ers mis Ebrill 2004

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru wedi ymddiswyddo.

Roedd ymchwiliad wedi ei gynnal i honiadau o fwlio staff yn erbyn Felicity Williams.

Mae Mrs Williams wedi bod yn absennol o'i gwaith ers naw mis.

Doedd hi ddim ar gael i wneud sylw.

Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb ers 2004.

Dymunodd Tom Wilson, pennaeth personol yr undeb, yn dda i Mrs Williams wrth gadarnhau ei hymddiswyddiad.

Arian

Eglurodd bod yr ymddiswyddiad wedi dod i rym ar Ebrill 30 ond nad oedd am wneud unrhyw sylw pellach.

Roedd adroddiadau ym mhapur newydd The Western Mail ym mis Medi'r llynedd oedd yn dweud bod Mrs Williams, 47 oed "i ffwrdd o'r gwaith" ers tua wyth wythnos ar ôl i fwyafrif y staff yn y pencadlys yng Nghaerdydd arwyddo cwyn yn ei herbyn.

Does 'na ddim gwybodaeth a wnaeth Mrs Williams dderbyn setliad ariannol pan ymddiswyddodd.

Mae disgwyl i gynhadledd flynyddol yr undeb gael ei gynnal yn Llandudno yr wythnos nesaf.

Dywedodd Mrs Williams wrth dderbyn y swydd bod hi'n "dipyn o gyfrifoldeb" ond yn "anrhydedd".

Ar y pryd dywedodd y TUC bod 40% o weithwyr Cymru yn aelod o undeb, sef y ganran ucha yn y Deyrnas Unedig.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^