Dydi Ysgol Gymraeg Yr Andes ddim wedi cau ond mae llwch ymhob man
|
Mae hafan ddiogel rhag llwch llosgfynydd yn Ne America yn cael ei gynnig i ddau fyfyriwr o'r Wladfa.
Urdd Gobaith Cymru sydd wedi cynnig lle i ddau sy'n dysgu Cymraeg barhau a'u gwersi a hynny yn y ganolfan yng Nglan-llyn ger Y Bala am chwe mis.
Ond mae angen codi £2,000 ar gyfer y daith o'r Wladfa i'r Bala.
Mae Gill Stephen, sydd allan yn Y Wladfa yn dysgu Cymraeg, wedi dweud bod cymunedau wedi cael eu rhybuddio y gallai'r llosgfynydd yn Chile ffrwydro unwaith eto ac achosi daeargryn.
"Rydym o dan haen o lwch," meddai Ms Stephen sy'n dysgu yn Ysgol Gymraeg yr Andes sydd ar safle yn Nhrevelin ac yn Esquel.
"Mae'n annifyr ac yn anesmwyth.
"Dyn ni ddim yn gwybod be all ddigwydd os wnaiff y llosgfynydd ffrwydro."
Daeargryn
Mae 'na rybuddion wedi cael eu rhoi a chyngor i bobl sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o fwyd tin, dŵr, canhwyllau a batris rhag ofn y bydd 'na brinder.
Yn ôl Ms Stephen mae 'na dri phosibilrwydd.
Gall y mynydd barhau i ryddhau mwg a thawelu; gall ffrwydro gan ryddhau lafa poeth neu fewnffrwydro ac achosi daeargryn.
Nid eira sydd ar y strydoedd ond llwch o'r llosgfynydd
|
"Rydym yn deall bod 'na dros 50% o siawns y bydd y mynydd yn mewnffrwydro," meddai.
"Os fydd hyn yn digwydd mae 'na ddaeargryn sylweddol am ddigwydd all effeithio'r gwledydd cyfagos.
"Mae'n bryder gwirioneddol gan y gall rwygo argae San Martin.
"Mae 'na waith hydro-electrig mawr ddim yn bell o Drevelin ac fe all y gronfa ddŵr enfawr lifo drwy'r dyffryn."
Fe wnaeth Llosgfynydd Chaiten ffrwydro ddechrau mis Mai gyda chymylau o fwg a llwch yn lledu ar draws ardal eang iawn.
Mae'r llwch mân wedi mynd i mewn i'r systemau aer ac i'r ceir ac mae ysgolion lleol a maes awyr wedi gorfod cau yn ôl Ms Stephen.
Cronfa
Fe wnaeth hi groesawu cynnig yr Urdd i anfon dau ddisgybl i Gymru i barhau a'u haddysg Gymraeg.
"Rydym wedi cael £250 o gyfraniad i ddechrau'r gronfa ond mae'n rhaid codi'r gweddill."
Dydi'r disgyblion ddim wedi cael eu dewis eto ac yn ôl Ms Stephen mae 'na sawl un all gael eu hanfon.
Mae 'na tua 150 o blant yn astudio Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes.
Mae Menter Iaith Patagonia a Phrosiect yr Iaith Gymraeg wedi lansio apêl i godi arian ar gyfer anfon dau o blant drosodd i Gymru ond mae'n bosib y bydd modd anfon mwy o ddisgyblion.