Bu farw Mason Jones, pump oed
|
Mae teuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio gan achosion o E.coli yn ne Cymru yn 2005 wedi dweud nad oes gwersi wedi cael eu dysgu gan farwolaethau blaenorol.
Bu farw Mason Jones, 5 oed o'r Deri ger Bargoed ar ôl mynd yn sâl ym mis Medi 2005.
Clywodd yr ymchwiliad i'r achosion - sy'n dirwyn i ben ar ôl chwe wythnos o dystiolaeth - bod "cyfres o fethiannau a chamddealltwriaeth" wedi galluogi cigydd i werthu bwyd oedd wedi ei heintio i ysgolion.
Mae cyfreithwyr ar ran y rhai gafodd eu heintio ag E.coli wedi cyhuddo Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr o fethu ag amddiffyn y cyhoedd.
Mae'r cyngor yn gwadu ei bod nhw wedi neud unrhyw beth o'i le.
Cafodd dros 150 o bobl, y mwyafrif yn blant, eu heintio gan E.coli.
Cafodd y cigydd William Tudor, 55 oed o'r Bont-faen, ei garcharu am flwyddyn ym mis Medi ar ôl cyfadde iddo gyflenwi cig wedi ei lygru o'i fusnes ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Anwybyddu
Dywedodd Mark Powell QC ar ran teuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio bod hyn wedi "achosi niwed hirdymor i fwyafrif y teuluoedd" a bod y plant wedi eu "creithio".
Aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd canlyniadau i ymchwiliad yn Yr Alban pan fu farw 21 o bobl oedrannus rhwng 1996 a 1997 ddim wedi cael eu hystyried.
Ychwanegodd nad yw am i'r un peth ddigwydd mewn 10 mlynedd, bod y gwersi yn cael eu hanwybyddu.
Derbyniodd Anthony Vines ar ran Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr, bod 'na "boen, colled a dioddefaint" wedi bod i nifer o deuluoedd.
Mae'r awdurdod yn "cydymdeimlo'n ddwys" gyda nhw meddai ond fe ddywedodd un o'r cyhoedd oedd yn y gwrandawid a bod hyn "yn rhy hwyr".
Wrth gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwilaid fe wnaeth y cyngor amddiffyn y penderfyniad i adael i'r cigydd barhau i ddefnyddio peiriant pecynnu cig.
Dywedodd y cyngor ei fod yn rhesymol i'r cigydd ddefnyddio'r un peiriant i becynnu cig wedi ei goginio a chig nad oedd wedi ei goginio, a bod rheolau'r mater yn aneglur.
Roedd ymgais y cigydd, meddai'r cyngor, i dwyllo wedi rhoi'r argraff i'w swyddogion nhw ei fod yn "gymwys i drin bwyd".
Ond mae'r cyngor yn derbyn bod gwendidau yn y ffordd y cafodd cynllun asesu risgiau ei gyflwyno.
Fe fydd cwest i farwolaeth Mason Jones yn cael ei gynnal unwaith y bydd adroddiad yr Athro Hugh Pennington yn cael ei gyhoeddi.